Sgwâr Ancaster, Llanrwst

Sgwâr Ancaster, Llanrwst

Mae Sgwâr Ancaster yn ei ffurf bresennol yn dyddio o'r 16eg ganrif, pan wawriodd cyfnod o  ffyniant yn Llanrwst ar ôl y cythrwfl o wrthryfel Owain Glyndŵr a Rhyfeloedd y Rhosynnau. Enwyd y sgwâr ar ôl Dug Ancaster, a briododd i mewn i deulu Wynn, y tirfeddianwyr lleol mwyaf, ym 1678. Digwyddodd hyn drwy briodas Robert Wynn a Mary 'Bertie', o Gastell Grimsthorpe. Mae llawer o'r adeiladau o amgylch y sgwâr y dyddio o'r 16eg a'r 17eg ganrifoedd.

llanrwst_ancaster_squareRoedd ffeiriau a marchnadoedd wedi cael eu cynnal yn Llanrwst ers 1282. O ddiwedd y 14eg ganrif, lle marchnad oedd yr ardal lle mae’r sgwâr heddiw. Hyd at amser y Brenin James I, twmpath mawr o bridd a elwir Bryn y Boten oedd lleoliad y farchnad. Nid oes dim o'r twmpath naturiol yn bodoli heddiw ag eithrio llethrau bach wrth fynd i mewn i'r sgwâr o Ffordd yr Orsaf, Stryd y Bont a Stryd yr Eglwys ac, yn fwy amlwg, sefyllfa tafarn Pen y Bryn ychydig yn uwch na’r tir cyfagos.

Codwyd neuadd y farchnad ar y twmpath ym 1470. Ailadeiladwyd y neuadd gan y teulu Wynn ym 1661. Ar ôl cael ei losgi i lawr, codwyd neuadd yn y 18fed ganrif fel strwythur carreg deulawr (gwelwch yr hen lun), gyda chloc mawr yn y wal uwchben mynedfa bwaog. Uwchben y clochdy safai ceiliog gwynt ac eryr mawr aur. Codwyd yr adeilad hwn pan dynnwyd y twmpath ymaith i adael sgwâr gwastad. Ond fe ddymchwelwyd yr adeilad ym 1964, i alluogi lledu'r ffordd.

Mae'r rhan fwyaf o’r sgwâr yn awr wedi’i neilltuo ar gyfer cerddwyr. Dychwelwyd rhannau o'r cloc i Lanrwst yn 2002, pan grewyd tŵr newydd yn y sgwâr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae'r tŵr 10 metr o uchder, i ddarparu digon o le ar gyfer pendil y cloc.

Gyda diolch i Pat Rowley

Côd post: LL26 0LB    Map