Haulfre Gardens Cymraeg

Gerddi Haulfre, Llandudno
 
Old postcard of Haulfre GardensCrewyd Gerddi Haulfre gan Henry Davis Pochin, mab i ffermwr iwmon yn Swydd Gaerlŷr. Gwneath ei ffortiwn fel cemegydd diwydiannol. Dyfeisiodd dull o brosesu rosin ar gyfer cynhyrchu sebon gwyn a lliw. Agorodd pyllau clai llestri (china clay) yng Nghernyw ar ôl dod o hyd i ffordd o ddefnyddio clai llestri ar gyfer cynhyrchu papur. Gwasanaethodd fel AS dros Stafford, ac roedd yn un o gyfarwyddwyr y Tredegar Iron & Coal Company a agorodd Glofa Pochin yn Nhredegar, Sir Fynwy, yn 1881.

Yn 1875 prynodd Neuadd Bodnant, yn Nyffryn Conwy. Ail-luniodd y neuadd 18fed-ganrif yno a chreu’r ardd 80-erw (sydd bellach yn atyniad Ymddiriedolaeth Genedlaethol), gan greu y bwa tresi aur enwog a phlannu coed redwood sydd bellach yn enfawr.

Datblygodd Gerddi Haulfre rhwng 1871 a 1876. Wedi iddo farw ym 1895, pasiodd ei ystad i’w ferch Laura. Daeth ei gŵr hi yn Arglwydd Cyntaf Aberconwy ym 1911.

Old postcard of Haulfre tea gardensPerchennog cynnar y tŷ yn Haulfre oedd Tommy Lipton, a ddaeth yn enwog am y gadwyn genedlaethol o siopau groser o’r enw Lipton – a hyd yn oed yn fwy enwog am gwmni te Lipton.

Perchennog arall Haulfre oedd John Walker o Osborne House. Daeth ei ffortiwn o fragdy Walker. Prynnodd Cyngor Dosbarth Trefol Llandudno yr ystad yn 1928 am £5,000. Fe'i hagorwyd fel parc cyhoeddus gan y cyn Brif Weinidog David Lloyd George AS ym 1929.

Rheolir y gerddi heddiw gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Ailfodelwyd y gerddi yn 2001 gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Gyda dioch i John Lawson-Reay, o Gymdeithas Hanes Llandudno a Bae Colwyn

Ymhle mae'r HiPoint hwn?

Côd Post: LL30 2HT