Suddo llong Rhyfel Cartref America, ger Prestatyn

Suddo llong Rhyfel Cartref America, ger Prestatyn

Roedd y Fyddin Cydffederal eisoes yn colli Rhyfel Cartref America pan y dioddefodd ergyd arall ar 14 Ionawr 1865 – sef colli stemar olwyn newydd ger Prestatyn. Lladdwyd llawer o forwyr a gwirfoddolwyr bad achub.

Adeiladwyd y stemar olwyn Lelia yn Lerpwl fel "blockade runner". Roedd wedi hwylio o Lerpwl o dan capten Prydeinig gyda llwyth o lo a nwyddau cyffredinol ar gyfer Bermuda. Hefyd ar fwrdd y llong oedd Capten Arthur Sinclair, cadlywydd y Llynges Cydffederal a oedd i gymeryd y llyw ym Mermuda. Byddai cyflenwadau ar gyfer y Fyddin Cydffederal yn cael eu llwytho yno.

Drawing of ship and lifeboatByddai cyrraedd pen y fordaith, Wilmington, wedi golygu torri'r gwarchae llyngesol a osodwyd gan yr Arlywydd Abraham Lincoln. Roedd Capten Sinclair, a hanai o Virginia, wedi cyflawni’r gamp sawl gwaith ers dechrau'r Rhyfel Cartref yn 1861, ac wedi derbyn tal swmpus am wneud.

Wrth i’r Lelia ddynesu at y Gogarth, dechreuodd dŵr i lifo i mewn i’r llong yn y tywydd stormus. Chwythwyd y llong tua'r dwyrain ac fe suddodd oddeutu 12km i'r gogledd o Brestatyn gyda cholled yr holl swyddogion a'r rhan fwyaf o'r criw. Aeth y bad achub Liverpool No.1 i'r adwy ond cafodd ei boddi, a bu farw saith o'i griw. Golchwyd corff Capten Sinclair i’r lan, fis yn ddiweddarach, yn Fleetwood. Mae'r llun ar y dde, o’r Illustrated London News, yn dangos y bad achub yn ceisio achub y llong.

Ble mae'r HiPoint hwn?

 

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button