Safle ysgol gynyddiaeth, Y Gogarth

Safle ysgol gynyddiaeth, Y Gogarth

Photo of gun firing at Great Orme coastal gunnery schoolYn 1940, yn gynnar yn yr Ail Ryfel Byd, penderfynodd y llywodraeth ysgol gynyddiaeth arfordirol y Royal Artillery symud o Shoeburyness, Essex, i rywle mwy diogel, oherwydd yr oedd y Natsïaid yn bomio de Lloegr. Ar ôl chwilio arfordir gorllewin Prydain yn fanwl, dewisodd swyddogion ardal o’r Gogarth sydd i’r gorllewin o Llys Helyg Drive. Roedd y safle yn ddelfrydol oherwydd ei leoliad ac am fod aber eang y foryd gerllaw, lle y gellid angori llongau targed.

Dechreuodd yr hyfforddi ym mis Medi 1940. Yn ogystal â'r adain gynyddiaeth, roedd yno adain chwiloleadau ac adain radio. Ym mis Ebrill 1941, dechreuodd y cyrsiau radio cyntaf, ar gyfer hyfforddiant mewn lleoli efo radar a radio. Adeiladwyd hefyd batri yn y chwarel ar Drwyn y Fuwch a ddefnyddiwyd ar gyfer hyfforddiant a hefyd fel rhan o'r amddiffynfeydd arfordirol.

Aerial view of Great Orme coastal gunnery school site in 1947Erbyn 1942 roedd 150 o swyddogion, 115 o gadetiaid a a 445 yn perthyn i rengoedd eraill yn ysgol gynyddiaeth Y Gogarth. Roeddent yn gallu rhedeg 14 cwrs ar y tro. Roedd y personél yn lletya yn bennaf mewn gwestai Llandudno a mewn tai preswyl lleol. Priododd mwy na 130 o ferched lleol milwyr a oedd yn gysylltiedig â'r ysgol saethu. Amcangyfrifwyd fod 70 o fabanod Llandudno yn blant i ddynion oedd yn gysylltiedig ysgol.

Ym 1942 hyffordded Gwarchodlu Cartref Llandudno ar gynnau chwe modfedd a 12-pwys, ac ar y chwiloleuadau. Ym 1943 cawsant eu henwi yn swyddogol yn Coast Artillery Battery, Home Guard.

Mae'r tair gorsaf chwilolau yn dal i fod yn gyfan ond nid yn hygyrch. Gadawyd y safle yn wag ym 1946, ac yn y 1950au dymchwelwyd y rhan fwyaf o'r gosodiadau. Mae’r llun o’r awyr, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos y safle ym 1947.

Gyda diolch i John Lawson-Reay, o Gymdeithas Hanes Llandudno & Bae Colwyn, ac i Lywodraeth Cymru

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button