Safle damwain awyren Americanaidd, uwchlaw Penmaenmawr

button-theme-history-for-all-W

BSL-USED-HERE---logophoto_of_crew_of_bachelor_baby By farw pum awyrenwyr Americanaidd a'u masgot, daeargi o'r enw Booster, mewn damwain awyren yma ar 7 Ionawr 1944. Tynnwyd y llun o'r criw (ar y dde) gan y peilot, Adrian J Shultz.

Enw’r criw ar eu hawyren B-24 Liberator oedd Bachelor Baby. Roeddynt wedi hedfan ynddi o Palm Beach, Florida, i maes awyr Y Fali, Ynys Môn, trwy Brasil a Morrocco. Gadawodd yr awyren Y Fali gyda gorchmynion i ddilyn awyren B17 Flying Fortress a fyddai’n tywys y criw at eu canolfan newydd, RAF Watton, yn Norfolk. Mewn cwmwl trwm a glaw mân collodd y criw olwg ar y B17, ac roedd eu cwmpawd magnetig wedi torri. Sylweddolon eu bod yn rhy isel pan agorodd y cymylau am ennyd. Er gwaethaf ymdrechion y peilot, tarodd yr awyren y crib, disgynodd i’r tir a llosgi. Roedd yr awyren yn cario llwyth enfawr o ffrwydron rhyfel, a ddechreuodd y rheini i danio. Ceisiodd y goroeswyr eu gorau glas i ryddhau eu cymrodyr.

Aeth yr anelwr bomiau, Ail Lieut Norman Boyer, i lawr at ffermdy ger Rowen a chodi’r larwm. Yn y cyfamser, brysiodd chwarelwyr lleol a’r cwnstabl heddlu o Lanfairfechan, PC Hughes-Parry, at safle'r ddamwain ar ôl gweld a chlywed yr awyren mewn anhawster. Daeth cymorth hefyd o faes awyr RAF Llandwrog, gwasanaeth achub mynydd cyntaf r awyrlu. Rhoddodd y cynorthwywyr gymorth cyntaf i’r Americanwyr, yna eu cario i lawr ochr y bryn i Neuadd Graiglwyd, Penmaenmawr.

Cyn i'r goroeswyr cael eu trosglwyddo i'r ysbyty ym Mangor, gofynodd y saethwr Sgt Harold Alexander i’r chwarelwr Ellis Lewis i ddychwelyd at safle’r ddamwain i gladdu Booster, y ci. Claddodd Mr Lewis y ci bach du a gwyn wrth ymyl gweddillion yr awyren.

Torodd Lieut Julian Ertz, ail lywiwr Bachelor Baby, ei gefn ond goroesodd. Cyn y rhyfel bu’n chwarae pêl-droed Americanaidd ar gyfer ei ysgol uwchradd ac yna Prifysgol Temple, Pennsylvania. Yr oedd yn adnabyddus i’w gyd-awyrenwyr fel y "cefnwr canu". Ar ôl ei driniaeth ym Mangor ac yna mewn ysbytai milwrol Americanaidd, dychwelodd i’r Unol Daleithiau a gwella digon i orffen astudio’r gyfraith. Gweithiodd fel atwrnai.

Yn 1980 gosodwyd carreg i goffau'r criw a Booster ar y llecyn o graig noeth, lle y mae llystyfiant yn dal heb orchuddio’r graith a achoswyd gan y ddamwain a’r tân.

Gyda diolch i Adrian Hughes, o amgueddfa Home Front, Llandudno

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
Pilgrim's Way Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button