Capel y Drindod, Pwllheli

Capel y Drindod, Pwllheli

Roedd y capel Presbyteraidd hwn yn wreiddiol yn cael ei adnabod fel Capel Penmount. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y gweinidog o heddychwr yn dadlau yn erbyn gorfodaeth filwrol.

Cafodd y capel cyntaf ei adeiladu yma tua 1780. Cyn hynny roedd yma dŷ a elwid yn Benmount, ynghyd â bwthyn ac iard longau (roedd glan môr yr harbwr yma bryd hynny). Cafodd y capel ei wneud yn fwy wrth i boblogaeth y dref gynyddu. Mae'r adeilad a welir heddiw gan mwyaf yn dyddio o adeg ail-adeiladu'r capel ym 1881. Wrth ochr y capel mae'r ysgoldy ar gyfer yr Ysgol Sul.

Ym 1860, bu dadl ffyrnig ynghylch pa faint y dylid ei dalu i'r gweinidog, ar ôl i'r Parchg. Owen Thomas gwyno fod yr arian yn annigonol. Pan setlwyd y mater yn y diwedd, aeth rhagor na 100 o aelodau o'r capel mewn protest. Cynorthwyodd rhai ohonyn nhw i sefydlu capeli eraill yn y dref.

pwllheli_rev_puleston_jonesYm 1907 daeth y Parchg. Ddr John Puleston Jones (1862-1925) yn weinidog yma. Mae llun ohono ar y dde. Roedd ef wedi colli ei olwg mewn damwain pan nad oedd ond 18 mis oed. Yn ddiweddarach creodd fersiwn Gymraeg o Braille.

Yr oedd yn heddychwr brwd. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, bu'n cyflwyno dadleuon diwinyddol ac ymarferol yn erbyn gwrthdaro arfog. "Mae rhyfel yn ateb pethau am ychydig bach ond yn ateb dim yn barhaol," meddai ym mis Hydref 1914.

Bu'n cynrychioli gwrthwynebwyr cydwybodol wrth iddyn nhw apelio yn erbyn gorfodaeth filwrol yn y tribiwnlysoedd. Arweiniodd ei weithredoedd  ef i dynnu yn ei ben amryw o bobl ddylanwadol a mawr eu parch. Mewn cyfarfod cyhoeddus ym Mhwllheli yn Ionawr 1918, bu'n dadlau â'r addysgwr mawr Syr Henry Jones, yr oedd Elias, ei fab, yn garcharor rhyfel yn Nhwrci ac a ysgrifennodd lyfr poblogaidd am ei brofiadau yn ddiweddarach.

Cafodd enw'r capel ei newid yn Gapel y Drindod ym 1997, pan gytunodd tri chapel Presbyteraidd Pwllheli i ddod at ei gilydd mewn un lle, yn wyneb y lleihad yn y cynulleidfaoedd. Yn ymyl y giatiau mae carreg o Gapel Cam, Deneio, capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhwllheli, a adeiladwyd tua 1760.

Diolch i’r Parch Ioan W Gruffydd

Cod post: LL53 5HU    Map

Mwy o hanes y capeli lleol a'r Parch Puleston Jones - gwefan Cyngor Tref Pwllheli

button_tour_rebels-E Navigation previous buttonNavigation next button