Cymraeg Aberystwyth war memorial

Cofeb rhyfel Aberystwyth

Mae'r gofeb ysblennydd hon yn coffáu pobl leol a fu farw yn y rhyfeloedd byd. Cafodd ei ddadorchuddio ym 1921. Y dylunydd oedd Mario Rutelli, cerflunydd Eidalaidd o fri. Mae'r person adeiniog ar ben y golofn yn cynrychioli Buddugoliaeth, ac fe’i welir yn disgyn ar y Ddaear gyda newyddion am fuddugoliaeth a heddwch. Ar y glôb o dan y cerflun y mae enwau rhai o'r meirw lleol o'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Ar waelod y golofn mae cerflun o wraig noeth. Mae’n dod allan o ddeiliant cymhleth, sy’n cynrychioli anhrefn rhyfel.

Gwnaeth Rutelli’r rhan fwyaf o’i waith yn yr Eidal, ond yr oedd hefyd yn gyfrifol am gerflun ym 1922 o Dywysog Cymru, a ddaeth yn Frenin Edward VIII. Mae’r cerflun yn sefyll tu allan i hen adeilad y coleg yn Aberystwyth.

I ddarllen manylion y meirw rhyfel lleol, dewiswch categori isod. Mae'r manylion yn grynodebau o ymchwil gan Steven John. I ddarllen ei gyfrifon cynhwysfawr o feirw ryfel Aberystwyth, cliciwch yma.

Map


Rhyfel Byd Cyntaf, cyfenwau A-E

Rhyfel Byd Cynraf, cyfenwau F-J

Rhyfel Byd Cyntaf, cyfenwau  K-P

Rhyfel Byd Cyntaf, cyfenwau Q-Z

Ail Ryfel Byd, cyfenwau A-E

Air Ryfel Byd, cyfenwau F-J

Ail Ryfel Byd, cyfenwau K-Z

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button