Yr Eglwys Farmor, Bodelwyddan

button-theme-womenYr Eglwys Farmor, Bodelwyddan

bodelwyddan_marble_churchAdeiladwyd Eglwys y Santes Margaret, “Yr Eglwys Farmor”, yn 1856-1860. Mae tŵr yr eglwys, 62 metr o uchder, yn dirnod amlwg o bell neu agos ac o gerbydau sy’n gwibio heibio ar yr A55. Mae’r hen luniau yn dangos yr eglwys cyn dyfodiad y beddi rhyfel (gwelwch isod).

Comisiynwyd yr eglwys gan Margaret, merch Syr John Williams o Gastell Bodelwyddan. Roedd hi wedi priodi barwn Swydd Warwick ond dychwelodd i'w cynefin ar ôl ei farwolaeth yn 1852. Cytunodd Esgob Llanelwy, Dr Vowler Short, y dylid creu plwyf Bodelwyddan gydag eglwys plwyf ei hun. Mae'r eglwys yn ymroddedig i ddau sant: St Margaret o Antioch a St Kentigern.

John Gibson oedd pensaer yr eglwys. Roedd o wedi astudio gyda Syr Charles Barry, a ailadeiladodd Senedd San Steffan ar ôl tân yn 1834. Roedd arddull pensaernïol Syr Charles yn addurnol iawn. Gwelir effaith y dylanwad hwn yn yr Eglwys Farmor, yn enwedig yn y cerfiadau Gothig sy'n addurno'r tu allan. Mae'r tu mewn yn cynnwys sawl math o farmor, o Iwerddon, Lloegr, Ffrainc a'r Eidal. Mae'r ffenestri gwydr lliw Fictoraidd yn nodedig hefyd.

bodelwyddan_marble_church_interiorDefnyddiwyd math o galchfaen o Landdulas i adeiladu’r eglwys. Mae’n ymddangos yn debyg i borslen. Mae dwy gilfach wrth y fynedfa orllewinol wedi eu gwneud o gwenithfaen Aberdeen, oherwydd yr oedd St Kentigern yn hanu o'r Alban. Daeth seiri maen arbenigol o gymunedau ledled Gogledd Cymru, yn enwedig yn Ynys Môn, i weithio ar yr eglwys.

Mae'r fynwent yn cynnwys bedd Elizabeth Jones, mam yr arloeswr Fictoraidd enwog Syr Henry Morton Stanley, a beddau mwy nag 80 o bobl o Ganada a fu farw mewn gwersyll milwrol gerllaw ym 1918 a 1919.

Côd post: LL18 5UR    Map