Cofeb rhyfel Capel Garmon

Cofeb rhyfel Capel Garmon

Mae'r gofeb hon, y tu allan i Eglwys Sant Garmon, yn coffáu'r dynion lleol a fu farw yn y ddau Ryfel Byd. Gweler isod i ddarganfod pwy oeddynt.

Rhyfel Byd Cyntaf

Ail Ryfel Byd

Darparwyd y gwybodaeth am y dynion a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf Cyflenwyd gan brosiect Conwy a'r Rhyfel Mawr, sydd wedi ymchwilio eu hanesion yn fanwl.

Cod post: LL26 0RW    Map

 
 

Rhyfel Byd Cyntaf

  • EDWARD ARTHUR DAVIES, Tŷ Canol, Nebo. Private 202597. Royal Welsh Fusiliers. Claddwyd ym Mynwent Ryfel Beersheba, Palesteina. Bu farw Tachwedd 6ed 1917 yn 25 oed. Ganwyd yng Ngherrigydrudion, mab Hannah Davies. Bu’n gweithio yn Swyddfa Bost Llansannan cyn y rhyfel. Brawd John Owen Davies, isod.
  • JOHN OWEN DAVIES, Sibbald, Atlanta, Canada, gynt o Tŷ Canol, Nebo. Private 106181. 1st Canadian Mounted Rifles. Bu farw o pneumonia adref yng Nghanada ar Dachwedd 7fed 1918 yn 31 oed. Claddwyd ym Mynwent Edmonton, Alberta. Bu’n gweithio fel ffarmwr yn Alberta cyn y rhyfel. Brawd Edward Arthur Davies, uchod.
  • JOHN DAVIES, 3 Glan Euarth (Mountain View), Capel Garmon.
  • Is-gorporal 16772. Royal Welsh Fusiliers, 13eg fataliwn. Cofeb Pozieres, Ffrainc. Bu farw 22ain Ebrill 1918 yn 27 oed. Roedd John yn un o saith o blant Robert and Elizabeth Davies. Gweithiodd fel ‘skinner’ mewn tanerdy yn Llanfair ym Muallt cyn y rhyfel.
  • EDWARD VICTOR EDWARDS, Stabl Mail Isa, Capel Garmon. Capten. Lincolnshire Regiment, Bataliwn 1af. Cofeb Pozières, Ffrainc. Ennillodd y Groes Filwrol a bar. Bu farw Mawrth 21ain 1918 yn 32 oed. Unig fab Griffith a Jane Edwards. Bu’n gweithio fel porthor rheilffordd ac yna fel cyfrifydd, cyn ymuno a’r fyddin yn 1903.
  • HUGH EVANS, Glan y Wern, Capel Garmon. Private 3660. Welsh Guards, Bataliwn 1af. Claddwyd ym Mynwent Villers-Pol, Ffrainc. Bu farw Tachwedd 6ed 1918 yn 26 oed ar ol cael ei anafu yn un o frwydrau ola’r rhyfel. Mab y bugail William Evans a Hannah Evans. Bu’n gweithio fel coediwr cyn y rhyfel.
  • RONALD ALEXANDER LLEWELYN GALLEN, Dylasau Cottage, Rhydlanfair. Private 19599. Royal Welsh Fusiliers, 16fed fataliwn. Claddwyd ym Mynwent Guards Cemetery, Ffrainc. Bu farw Ebrill 11 1916 yn 21 oed. Unig fab Edward Alexander (cipar) a Valerie Gallen (artist). Bu’n fyfyriwr ym mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan cyn ymrestru yn 1914.
  • FRANCIS JONES, Penllan Bach, Capel Garmon. Private 68486. Royal Welsh Fusiliers, 9fed fataliwn. Claddwyd ym Mynwent Ddeheuol Cologne, Yr Almaen. Bu farw mewn gwersyll carcharorion ar Awst 20fed 1918 yn 31 mlwydd oed. Gweithiodd fel gwas fferm yn lleol, ac yna fel gwerthwr te yn Warrington.
  • WILLIAM JONES, Minffordd, Capel Garmon. Private 69263. Royal Welsh Fusiliers, 8fed fataliwn. Claddwyd ym Mynwent Newydd Kirkee, India. Bu farw o influenza Hydref 2il 1918 yn 26 oed. Mab Hugh Parry Jones a Hannah Jones. Gweithiodd fel labrwr a cipar. Bu dau o’i yn gwasanethu hefyd: Hugh and Robert Owen.
  • DAVID ISAAC MORRIS, Beudy Gwyn, Siloam. Private 15275. Royal Welsh Fusiliers, 10fed fataliwn. Cofeb Menin Gate, Gwlad Belg. Bu farw Mawrth 30 1916 yn 23 oed. Mab William a Margaret Morris. Bu ei frawd, Evan, hefyd yn gwasanaethu a bu iddo golli braich.
  • DAVID THOMAS OWEN, 1 Glan Euarth (Mountain View), Capel Garmon. Private 25385.  South Wales Borderers 6ed fataliwn, gynt o’r King's Shrophire Light Infantry. Cofeb Ploegsteert, Gwlad Belg. Bu farw Ebrill 9fed 1918 yn 25 oed. Mab John ac Elizabeth Owen. Bu’n gweithio fel gwerthwr papurau cyn y rhyfel.
  • WILLIAM PARRY, Melin Plas yn Rhos, Capel Garmon. Gunner 141051. Royal Garrison Artillery. Cofeb Chatby, Yr Aifft. “Buried at sea” ar ol marw o TB ar fwrdd llong ysbyty ar Fai 31 1918 yn 21 oed. Mab y melinwr John Parry a Mary Parry. Gweithiodd fel crydd cyn y rhyfel. Cafodd ei gonscriptio i’r fyddin er gwaethaf arolwg feddygol yn dyfarnu ei fod yn dioddef o asthma.
  • JOHN ROBERTS, Penllan, Capel Garmon.
  • OWEN ROBERTS, Tŷ Newydd, Rhydycreuau. Private 40141. Royal Welsh Fusiliers, 10fed fataliwn. Claddwyd ym Mynwent  London Cemetery and Extension, Ffrainc. Bu farw Gorffennaf 20fed 1916 yn 21 oed. Mab Elizabeth Roberts. Gynt o Celynfryn, Capel Garmon (cam-sillafwyd fel Glynfryn ar y gofgolofn). Gweithiodd i Gyngor Betws y Coed cyn y rhyfel.
  • CLIFFORD AINSLEY WILLIAMS, Meadow Bank, Llanrwst. Private 15301. Royal Welsh Fusiliers, 10fed fataliwn. Claddwyd ym mynwent Spoilbank, Gwlad Belg. Lladdwyd ef yn syth gan ddarn o ‘shell’ i’w ben ar Chwefror 19 1916 yn 20 oed. Ganwyd a magwyd yn Rhydlanfair. Mab Elias a Margaret Williams. Gweithiodd fel clerc cyfreithiwr. Bu dau o’i frodyr hefyd yn gwasanethu: Oswald ac Ernie.
  • DAVID WILLIAMS, Scarborough, New South Wales, Awstralia. Private 5666. 17th Australian Infantry Battalion. Cofeb Genedlaethol Awstralia, Ffrainc. Lladdwyd ar Fai 3ydd 1917 yn 42 oed. Mab Thomas a Catherine Williams o Gastell Pwt, ger Rhydycreuau. Gweithiodd fel mwynwr plwm cyn allfudio i Awstralia, ble bu hefyd yn gweithio fel mwynwr.
  • WILLIAM JOHN WILLIAMS, Tyddyn Iolyn, Capel Garmon. Gunner 116820. Royal Field Artillery. Cofeb Tyne Cot, Gwlad Belg. Bu farw Medi 20 1917 yn 22 oed. Rhestrwyd yn swyddogol fel mab Catherine Morris, Tyddyn Iolyn, er tydi hyn ddim yn cyfateb i gofnodion cyfrifiad y tŷ.
Top of Page
 
 

Ail Ryfel Byd

  • PHILIP ARNOLD, Bron Pistill, Capel Garmon.
  • HERBERT HARRISON LEWIS, Wern Bach. Fusilier 4199354. Royal Welsh Fusiliers. Buried at Banneville-la-Campagne War Cemetery, France. Died 17 July 1944 aged 27. Son of Charles W and Annie Lewis; husband of Sarah Lewis of Betws-y-coed.
  • JOHN MORIARTY, Llan Isa, Capel Garmon. Fusilier 14552301. Royal Welsh Fusiliers. Buried at Valkenswaard War Cemetery, Netherlands. Died 21 September 1944 aged 19. Son of James and Kate Moriarty.
Top of Page