Safle sefydlu Plaid Cymru, Pwllheli

button-theme-crimeSafle sefydlu Plaid Cymru, Pwllheli

Yn y siop hon y sefydlwyd Plaid Cymru ym 1925. Caffi ydoedd bryd hynny yn cael ei adnabod fel Maes Gwyn.

Pan gafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal ym Mhwllheli ym 1925, mi gyfarfyddodd chwe dyn yn y Madryn Temperance a ffurfio mudiad a ddaeth i gael ei adnabod fel Plaid Genedlaethol Cymru. Un ohonynt oedd Byddin Ymreolwyr Cymru, a sefydlwyd ym Mhenarth, ger Caerdydd. Y llall oedd Y Mudiad Cymreig, a sefydlwyd yng Nghaernarfon.

Enillodd Plaid Cymru (fel yr ail-enwyd y blaid ym 1945) ei sedd gyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin ym 1966, pan enillodd Gwynfor Evans sedd Caerfyrddin mewn is-etholiad. Cafodd ardal Pwllheli ei chynrychioli gyntaf gan A.S. Plaid Cymru ym 1974.

Carcharwyd tri o'r dynion a gyfarfu yn 1925 ym Maes Gwyn - Saunders Lewis, David John Williams a Lewis Valentine - yn 1936 am ymosodiad llosgi bwriadol ar safle newydd yr awyrlu (RAF) ym Mhenyberth, ger Pwllheli. Pwrpas y safle oedd i hyfforddi awyrenwyr mewn technegau bomio. Cyhoeddodd Plaid Cymru areithiau o’u hachosion yn Llys y Goron Caernarfon fel pamffled.

Roedd Lewis Valentine wedi cael ei anafu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, lle'r oedd ei brofiadau yng ngwasanaeth meddygol y fyddin wedi ei droi yn erbyn rhyfel fel dull o ddatrys anghydfodau. Roedd ganddo resymau heddychol a chenedlaetholgar dros ymosod ar safle’r awylu.

Roedd Saunders Lewis hefyd wedi cael ei anafu yn y rhyfel, lle gwasanaethodd fel Rhaglaw yn y fyddin. Ar ôl colli ei swydd fel darlithydd prifysgol yn Abertawe yn 1936, gweithiodd fel dramodydd, athro a newyddiadurwr. Yn 1962 rhoddodd ddarlith radio o'r enw Tynged yr Iaith i amlygu fod cyfrifiad 1961 wedi canfod bod cyfran y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng i ddim ond 26% o boblogaeth Cymru. Ysbrydolodd hyn ymgyrchoedd am fwy o gydnabyddiaeth i’r iaith a mesurau i’w gwarchod.

Cod post: LL53 5HA    Map

button_tour_rebels-E Navigation previous buttonNavigation next button