Trwyn Eilian

Trwyn Eilian

Yma mae Llwybr Arfordir Cymru yn croesi'r penrhyn o’r enw Trwyn Eilian, neu Point Lynas yn Saesneg. Point Lynas yw enw’r goleudy, sydd i’w weld yn y pellter o’r llwybr.

Mae’r enw Cymraeg yn cyfeirio at Sant Eilian. Fe'i anrhydeddwyd yn lleol tua 450OC, pan sefydlwyd eglwys gan y tywysog Caswallon Lawhir. Mae’r eglwys bellach ym mhentref Llaneilian.

point_lynasRhoddwyd ffurf Lladin i’r enw Eilian, o bosibl gan wneuthurwyr mapiau. Cofnodwyd Aelianus Point yn 1748, Point Linas yn 1781 ac Ælianus Point yn 1818. O’r 16eg a’r 19eg ganrif, roedd Eilian weithiau'n cael ei ddrysu â Sant Hillary. Nodwyd y pentir fel Pwynt Hyllary yn 1573, er enghraifft.

Bu amrywiadau tebyg yn enw ysgrifenedig Porth Eilian, y bae i'r gorllewin o'r pentir (yn y blaendir yn yr hen lun ar y dde). Fe'i cofnodwyd fel la baye sancte Elene yn 1297.

Agorwyd gorsaf signal ar y penrhyn yn 1827 gan gwmni o’r enw Liverpool & Holyhead Telegraph. Roedd breichiau signal yn cael eu codi neu eu gostwng i anfon negeseuon gweledol ar hyd cadwyn o orsafoedd, er mwyn i gwmnïau llong yn Lerpwl i baratoi ar gyfer dyfodiad eu llongau.

Trwyn Eilian oedd terfyn gorllewinol ardal Corfforaeth Lerpwl, ac yn ddiweddarach y Mersey Docks & Harbour Board. Sefydlwyd gorsaf peilot yma o dan Deddf Peilota Lerpwl 1766, gan ddefnyddio ffermdy fel gorsaf gwylio yn y lle cyntaf. Byddai peilotiaid trwyddedig yn byrddio llongau er mwyn eu tywys yn ddiogel i Lerpwl.

Roedd y peilotiaid eu hunain mewn perygl weithiau. Yn 1905, roedd dau gwch peilot yn cyfnewid criwiau oddi ar Drwyn Eilian pan drodd un ohonynt drosodd, gan luchio wyth o ddynion i'r môr. Boddodd James Bresen, peilot o Benbedw.

Codwyd y goleudy presennol, 11 metr o uchder, yn 1835 i gymryd lle strwythur a adeiladwyd tua 1781. Cafodd ei awtomateiddio yn 1989 ac mae bellach yn cael ei reoli o Essex. Mae ceidwaid cyntaf ac olaf y goleudy wedi eu claddu tu allan i Eglwys Sant Eilian.

Gyda diolch i'r Athro Prof Hywel Wyn Owen, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Cod post: LL68 9LT    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button