Cymraeg Old approach road, Bute Park

Bute Park Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button

Bute Park logo

Hen ffordd ddynesu’r gorllewin, Parc Bute

Extract from 1610 map
Rhan o fap 1610, gyda’r hen ffordd wedi’i hamlygu

Croesodd y brif ffordd i Gaerdydd o’r gorllewin dros Barc Bute, fymryn i’r de o ble rydych chi’n sefyll, cyn ei newid ym 1796. Arweiniodd yr hen lôn at Borth y Gorllewin, ger y castell. Drwy hyn roedd modd cael mynediad drwy’r muriau carreg amddiffynnol a godwyd yn y dref yn y 12fed a’r 13eg ganrif.

Amlygir y ffordd yn y llun ar y dde, sy’n rhan o fap John Speed o Gaerdydd o 1610. Rydym hefyd wedi lliwio Afon Taf, ond gan ei fod yn llifo ar gwrs arall heddiw, mae’n well defnyddio Brodordy’r Brodyr Duon a Phorth y Gorllewin fel pwyntiau cyfeirnod.

Dymchwelwyd Porth y Gorllewin yn y 1780au. Roedd y bont ar ben gorllewin yr hen ffordd yn agored i lifogydd a chafodd ei newid am un arall ym 1796.

Sut byddai’r hen ffordd wedi edrych? Mae’r llun hwn yn dyddio’n ôl cyn 1745. Croesodd y bont fechan hanner ffordd drwy’r hen ffordd dros nant o’r enw nant y tanerdy.

Drawing of western approach to Cardiff
Caerdydd o’r gorllewin, cyn 1745

 

Erbyn y 18fed ganrif, roedd nifer o adeiladau y tu allan i Borth y Gorllewin, yn eu plith melinau, tanerdy, tafarn o’r enw’r George Inn a gwaith copr. Erbyn 1787 roedd yn amser adfer yr ardal. Dymchwelwyd yr adeiladau wrth i ystâd Bute ennill tir o’r 1790au hyd at y 1840au. Ar ddiwedd y cyfnod hwn roedd yn berchen ar yr ardal a elwir yn Barc Bute heddiw. Roedd y rhodfa goed o’ch blaen yn rhan o waith tirweddu teulu Bute.

Dros y gwair i’r gogledd o’r hen ffordd mae cylch o gerrig. Efallai eu bod yn edrych fel cerrig o’r cynfyd, ond o 1978 maen nhw – sef OC nid CC! Y flwyddyn honno, croesawodd Caerdydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Fe’i cynhelir bob mis Awst mewn rhannau gwahanol o Gymru, gan ddenu tua 160,000 o ymwelwyr. Bydd yr Orsedd, sy’n cynnwys beirdd ac enwogion o fri, yn rhoi eu dillad derwyddol amdanynt at seremonïau’r Eisteddfod, a chynhelir rhai o’r seremonïau hyn yng Nghylch yr Orsedd ger y maes.

Daw cerrig Cylch yr Orsedd Parc Bute o’r ardal leol, ac er iddynt gael eu gosod yno ym 1978, mae rhai pobl leol yn haeru eu bod yno erioed!

Ble mae'r HiPoint hwn?

I barhau â thaith Parc Bute, peidiwch â dilyn y borderi blodau ond ewch ar lwybr y dde sy’n mynd i’r gogledd at y coetir. Fe welwch y côd QR nesaf ar y bwrdd gwybodaeth wrth safle'r brodordy Navigation next button