Cymraeg Castle Nursery, Bute Park

Bute Park Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button

Bute Park logo

Planhigfa’r Castell a’r hen ardd furiog, Parc Bute Button link to kids version of page

Artist's impression of Castle Nursery
Argraff pensaer o ganolfan addysg Parc Bute,
gan James Lockwood.

O’r fan hon yn y parc gallwch weld y mur gardd hir, a godwyd yn 2011 fel rhan o'r gwaith o godi Canolfan Addysg newydd y parc (ar y dde). Mae ar thema ‘ardd gudd’ furiog. Mae gan do’r ganolfan, y gallwch weld rhan ohono uwch y mur, baneli solar, ac mae rhywfaint o laswellt am ei phen hefyd! Mae’r rhain yn lleihau’r effaith a gaiff ar yr amgylchedd.

Roedd gardd furiog gynharach, a adeiladwyd rhywbryd rhwng 1906 a 1913, y tu ôl i fur newydd yr ardd. Yma tyfodd garddwyr ystâd Bute ffrwythau a llysiau i’r teulu a gwesteion. Pan âi’r teulu i’r ystadau yn yr Alban, byddai’r cynnyrch a dyfir yma’n cael ei anfon atynt ar y trên. Roedd hinsawdd Caerdydd yn fwy addas i’w tyfu nag yn yr Alban.

Roedd gan fur gogleddol yr ardd ddwy haen o friciau ac roedd wedi’i gynhesu, fel y gallai eirin gwlanog dyfu mewn “tŷ eirin gwlanog". Roedd tri thŷ gwydr, a gorchuddion gwydr i fefus a ffrwythau meddal eraill. Roedd blodau o’r ardd yn addurno Castell Caerdydd, lle trigai teulu Bute weithiau.

Mae’r ardal y tu hwnt i fur yr ardd bellach yn blanhigfa. Tyfir a dosberthir miloedd o blanhigion i’r ddinas yma – y mae’n llawn lliw a bwrlwm ar rai adegau o’r flwyddyn. Nid yw’r blanhigfa ei hun ar agor i’r cyhoedd ond gallwch weld rhan ohoni drwy ffenestri mawr yn y Ganolfan Addysg. Mae’r ganolfan ar agor i’r cyhoedd ar adegau penodol. Ewch drwy’r drws wedi'i gerfio yn y mur a throwch i’r dde (byddwch hefyd yn dod o hyd i Gaffi’r Ardd Gudd yn yr iard).

Walled garden site
Y safle cyn y gwaith adfer.
Gardd Stuttgart yn y blaen.

Cyn mynd i mewn, edrychwch ar yr ardd gylch addurniadol fechan. Dyma Ardd Stuttgart, wedi’i henwi ar ôl un o’r trefi sydd wedi eu gefeillio â Chaerdydd. Fe’i crëwyd gan brentisiaid a ddaeth i Gaerdydd ar daith gyfnewid yn 2006.

Os edrychwch yn ofalus ar gornel y wal i’r chwith o’r fynedfa, gallwch weld gwahaniaeth bach yn lliw’r briciau. Dyma’r lle mae mur newydd y de yn ymuno â hen fur y gorllewin. Ailddefnyddiwyd briciau i wneud i’r mur newydd edrych yn hŷn, ac i gadw at gymeriad yr hen fur.

Mae’r ffotograff (chwith) yn dangos sut olwg oedd ar y safle cyn gwaith Project Adfer Parc Bute yn 2011. Dywed nifer o bobl fod y mur newydd yn edrych fel y bu yno erioed! Mae’r rhosynnau sy’n tyfu i fyny’r mur newydd yn ail-greu’r delltwaith rhosynnau a arferai fod yn frith yn ne a dwyrain yr ardd.

Ble mae'r HiPoint hwn?

I barhau â thaith Parc Bute, cerddwch drwy’r drws ym mur yr ardd, heibio Drws y Bobl. Mae’r côd QR ar ochr fewnol mur yr iard Navigation next button