Pont Britannia, Treborth

sign-out

Pont Britannia, Treborth

Cynlluniwyd y bont gan Robert Stephenson ar gyfer y Chester & Holyhead Railway ac fe'i hagorwyd ym 1850. Fe'i hadeiladwyd yn wreiddiol gyda bwa tiwbaidd. Roedd dau tiwb haearn gyfochrog yn croesi Afon Menai, un i bob trac. Roedd y tiwbiau’n ddigon mawr i drên i basio trwodd. Roedd y ddau diwb mewn pedwar rhan, gyda chyfanswm o 465 metr o hyd.

Photo of Britannia Bridge c.1860s
Pont Britannia c.1860au, trwy garedigrwydd CBHC a'i wefan Coflein

Difrodwyd y tiwbiau gan dân ym mis Mai 1970 a gychwynwyd gan blant a oedd yn tresmasu yn un o'r tiwbiau i chwilio am ystlumod ac adar. Newidiodd y tân siap y tiwbiau cymaint fel nad oedd modd eu trwsio.

Ailadeladwyd Pont Britannia dros y blynyddoedd canlynol. Cynlluniodd Husband & Co o Darlington y bwâu dur o dan y rheilffordd. Roedd y cynllun yn caniatáu ychwanegu dec ffordd uwchben y rheilffordd. Mae hyn yn awr yn cario Gwibffordd yr A55, y brif ffordd rhwng Ynys Môn a Gwynedd.

Mae darn byr o un o diwbiau Stephenson wedi ei gadw ar y lan, ar ochr Gwynedd. Mae trenau yn parhau i fynd drwy diwbiau tebyg yng Nghonwy, lle y cododd Stephenson bont arall. Adeiladwyd y ddwy bont ar yr un pryd. Roedd yn rhaid i Bont Britannia adael digon o le (mwy na 30 metr uwchben y dŵr) ar gyfer llongau hwylio i deithio ar hyd yr Afon Menai. Roedd codi’r tiwbiau parod i'r fath uchder yn her dechnegol. Mynnodd Stephenson eu bod yn codi "modfedd wrth fodfedd" gyda darnau o bren yn cael eu pacio o dan y tiwb. Wrth i’r gweithwyr godi’r tiwb cyntaf, methodd jac a syrthiodd peiriannau a oedd yn pwyso 50 tunnell ar y tiwb, gan ladd un gweithiwr. Ond roedd y pren wedi’i bacio o dan y tiwb wedi atal i’r tiwb ei hun rhag ddisgyn mwy nag ychydig gentimetrau. Byddai hynny wedi achosi trychineb, mae’n debyg.

Y nodweddion mwyaf amlwg o strwythur Stephenson heddiw ydi’r tri thŵr canolog, ac arnynt pyrth mewn arddull yr Aifft. Cafodd y rhain eu haddasu er mwyn i ddec y ffordd i basio trwodd. Adeiladwyd dec y ffordd ym 1977-1980.

Map

Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button