Cymraeg Summerhouse Café, Bute Park
Agorwyd y caffi hwn ym mis Mai 2010. Mae ei arddull bensaernïol yn adlais o dŷ haf pren addurniadol, a oedd unwaith yn dirnod ym Mharc Bute.
Adeiladwyd y gwreiddiol tua 1880. William Burges, pensaer ystâd Bute, oedd y dylunydd, mae’n debyg. Bosib ei fod yn fwyaf adnabyddus y dyddiau hyn am ei waith ar Gastell Caerdydd a Chastell Coch, sydd ar odre bryn coediog ger Tongwynlais (i'r gogledd o Gaerdydd). Bu farw ym 1881, ac mae’n bosibl mai ei olynydd – William Frame, a ddyluniodd Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd – a’i cododd yn rhannol neu’n gyfan gwbl.
Roedd yr adeilad yn rhan o gynllun mawr Trydydd Ardalydd Bute i weddnewid y castell a’r tir hamdden. Pan ddechreuodd y cynllun yn y 1870au, roedd y parcdir yn gasgliad o diroedd a gaffaelwyd ar adegau gwahanol, a chan bob darn ei hanes ei hun.
Ym 1873, symudodd yr Ardalydd y garddwr Andrew Pettigrew o’i ystâd yn Swydd Ayr, yr Alban, i Gastell Caerdydd. Tirluniodd Pettigrew yr ardal fel ystâd breifat gydlynol, a ategodd addasiadau Burges i’r castell. Cymerodd y gwaith tirweddu 30 mlynedd. Cafodd amrywiaeth y coed a chyflwr y darnau helaeth o laswellt, lle chwaraewyd tenis a gemau eraill, argraff fawr ar ymwelwyr. Efallai bod glaswellt taclus yn rhywbeth cyffredin heddiw, ond nid oedd gan Pettigrew beiriant lladd gwair i'w helpu bryd hynny!
Dirywiodd cyflwr y caban yn y 1970au. Ym 1987, fe’i rhoddwyd i Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan (i’r gorllewin o Gaerdydd) lle cafodd ei agor fel arddangosfa i’r cyhoedd ym 1988 (gweler y llun uchod).
Mae gan y Caban newydd ffrâm bren addurniadol. Er mwyn ailgylchu, daeth y cerrig o amgylch y gwaelod o hen floc tai bach a ddymchwelwyd, a arferai fod ger safle presennol y caffi (gweler y llun isod). Mae’r adeilad newydd yn cynnig byrbrydau poeth ac oer i ymwelwyr â’r parc drwy’r flwyddyn, gan ddod yn fan poblogaidd i ymgynnull yno.
I barhau â thaith Parc Bute, dilynwch y prif lwybr i’r gogledd nes i chi ddod at Ardd addurniadol Stuttgart a mur gardd ar y dde. Mae’r côd QR ar bostyn pan aiff y llwybr tua’r dde |