Cymraeg Engedi chapel, Caernarfon

Capel Engedi, Stryd Newydd, Caernarfon

Yma yn 1856 y trafodwyd y syniad o sefydlu gwladfa Gymreig ym Mhatagonia am y tro cyntaf yng Nghymru.

Cododd y Methodistiaid Calfinaidd gapel yma yn 1842. Mae'r adeilad a welwn heddiw, gyda'i fynedfa Clasurol mawreddog, yn dyddio o 1867. Y pensaer oedd Richard Owen, o Lerpwl. Caewyd y capel oddeutu 1999.

Bu Cymdeithas Lenyddol Caernarfon yn cyfarfod yn y capel gwreiddiol. Un o’r aelodau blaenllaw oedd Lewis Jones, argraffydd lleol a anwyd gerllaw yn Pool Lane yn 1837. Yn 1856 trafododd y gymdeithas y posibilrwydd o sefydlu gwladfa ar draws yr Iwerydd lle y byddai iaith a diwylliant Cymru yn medru ffynnu. Crybwyllwyd y syniad yn wreiddiol yn yr Unol Daleithiau, lle roedd pobl o dras Gymreig wedi siomi nad oedd eu diwylliant wedi ymsefydlu yng Ngogledd America a bod y to ifanc yn tueddu i anwybyddu eu treftadaeth Gymreig.

Aeth Lewis Jones ymlaen i ennyn cymorth ar gyfer gwladfa ym Mhatagonia, ardal brin ei phoblogaeth yn Ne America. Yn 1862 fe hwyliodd i Buenos Aires i agor trafodaethau gyda llywodraeth Ariannin. Wedi i Mr Jones ysgrifennu adroddiad disglair (rhy disglair, efallai) am ardal Chubut, cyrhaeddodd yr ymfudwyr cyntaf o Gymru ym mis Gorffennaf 1865. Enwyd Trelew fel anrhydedd i Mr Jones.

Roedd degawdau cynnar Y Wladfa yn anodd, ac fe gymerodd holl bwerau perswâd Lewis Jones i gadw’r gwladychwyr rhag gadael. Bu farw yn Chubut ym 1904 , ychydig flynyddoedd ar ôl i llifogydd ddryllio gwaith yr ymfudwyr i wella'r tir. Fodd bynnag, fe oroesodd Y Wladfa, ac y mae Cymraeg yn dal ar lafar ym Mhatagonia heddiw.

Ar y golofn ar y dde o'r fynedfa i gapel Engedi fe welwch blac sy'n coffáu y Parch Evan Richardson, a sefydlodd ysgol Fethodistiaid Calfinaidd dylanwadol yng Nghaernarfon yn 1787.

Côd post: LL55 2PU    Map