Toiledau Fictoraidd, Yr Aes

Toiledau Fictoraidd, Yr Aes

Photo of Hayes urinals

Nid oes llawer o doiledau cyhoeddus yn adeiladau rhestredig! Mae cyfleusterau tanddaearol Yr Aes, fodd bynnag, wedi goroesi ers y cyfnod o ddatblygu cyflym yng Nghaerydd yn oes y Frenhines Victoria.

Mae’r rhes o wrinalau seramig gwreiddiol yn dal yn nhoiledau’r dynion, gyda phob stondin wedi'i rannu gan ddarn o farmor du. Y tu mewn i'r ciwbiclau fe welwch sestonau gan Thomas Crapper (1836-1910), plymwr a pheiriannydd glanweithiol o Loegr. Ymddengys y geiriau “Crapper’s Valveless Waste Preventer” ar y sestonau, sydd yn uchel ar y waliau. Gollyngir y dŵr  trwy dynnu ar gadwyn. Ar lefel y stryd, mae gwaith haearn addurnedig yn gwarchod y mynedfeydd i'r toiledau.

Photo of Hayes urinal

Agorwyd y cyfleusterau yn swyddogol ("amid a flourish of trumpets and rattling of gold keys") ym mis Awst 1898, ond roedd problemau gyda'r goleuadau prismatig. Ym mis Medi 1898, roedd cynghorwyr yn cwyno nad oedd neb eto wedi gallu defnyddio’r cyfleusterau a bod Corfforaeth Caerdydd yn talu staff y toiledau i wneud dim.

Adferwyd y toiledau yn 2009 ond fe’u caewyd yn 2013 gan gyngor y ddinas i arbed gwariant o £120,000 y flwyddyn. Cawsant eu hailagor yn 2014 gan berchnogion Bar Byrbrydau Ynys yr Aes gerllaw.

Cod Post: CF10 1AH

Map
 
Photo of Hayes toilet Photo of T Crapper cistern at Hayes Photo of Jennings plaque Hayes urinal
 
 
 

View Victorian toilets HistoryPoints.org in a larger map