Cyn-swyddfa i'r Midland Railway

sign-out

Cyn-swyddfa i'r Midland Railway, 44 Wind Street, Abertawe   

Ar un adeg dyma lle'r oedd swyddfa ranbarthol y Midland Railway. Bellach, ymgartrefodd Clwb Llafur Abertawe yma.

Roedd Cymru ymhell o brif ganolfan y Midland Railway yn Derby. Ond yn y 1870au roedd elw i'w wneud yn gwasanaethu diwydiannau llewyrchus De Cymru, gan gynnwys ffatrïoedd copr Abertawe. Roedd cwmnïau o gystadleuwyr wedi cymryd y traclwybrau hawsaf rhwng Lloegr ac Abertawe, gan orfodi'r Midland naill ai i brydlesu cledrau gan gwmnïau eraill neu i drafod telerau er mwyn eu defnyddio. Roedd y cledrau'n mynd drwy Aberhonddu a Phontsenni ac ymlaen ar hyd Cwm Tawe i Orsaf St Thomas, ar lan ddwyreiniol afon Tawe.

Photo of Swansea Labour Club president WJ HerbertYn Aberhonddu roedd canolfan drafnidiaeth ranbarthol gan y cwmni tan 1906; y flwyddyn honno symudoddodd y staff clerigol at eu cydweithwyr yn y swyddfa nwyddau ranbarthol, 44 Wind Street, Abertawe. Yn 1910 symudodd pawb i leoliad brafiach sef 27 Wind Street.

Am rai degawdau cyn i'r Midland Railway symud yno, roedd siop fferyllydd ac optegydd ar y safle. Yn 1888 gwerthai'r fferyllydd, J Atkins, "burydd gwaed" a honnai ei fod yn gwaredu llygryddion a oedd yn achosi cancr, gowt, distemper, clwy'r brenin ac amryw anhwylderau eraill; hanner coron oedd cost potelaid.

Amcan sefydlu Clwb Llafur Abertawe cyn yr Ail Ryfel Byd oedd gwarantu lle i ddynion gymdeithasu. W J Herbert, llywydd cyntaf y clwb sydd yn y ffotograff. Roedd yn aelod sylfaen rhwng 1932 a 1952.

Cod Post: SA1 1EF    

Tales of old Wind Street Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button

Map