Neuadd y Sir, Caerfyrddin

Neuadd y Sir, Caerfyrddin

Mae’r adeilad trawiadol hwn wedi’i godi ar safle’r carchar a oedd o fewn adfeilion Castell Caerfyrddin er y 18fed ganrif. Dyma bencadlys Cyngor Sir Caerfyrddin.

Llanymddyfri oedd cartref cyntaf y Cyngor Sir a hynny rhwng 1889 a 1907. Wedi  hynny symudwyd i Bank House yn Heol Spilman. Yn y 1920au gwnaed cynlluniau i droi’r hen garchar yn swyddfeydd ar gyfer y cyngor; ond newidiwyd y cynlluniau a chodi adeilad newydd. Y pensaer Percy Thomas (1883 -1969) a gynlluniodd yr adeilad yn 1935. Dyma’r flwyddyn y daeth ef yn llywydd ar Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain, y Cymro cyntaf i ddal y swydd honno. Ei gwmni ef oedd y mwyaf yng Nghymru a chafodd ei urddo’n farchog yn 1946.

Wedi dymchwel yr hen garchar aethpwyd ati i adeiladu Neuadd y Sir yn 1939 ond rhoddwyd y gorau i’r gwaith yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cwblhawyd yr adeilad yn 1955, 20 mlynedd wedi cyflwyno’r cynllun.

Cofnodir Neuadd y Sir yn adeilad Gradd II. Mae’n cael ei ystyried yn un o adeiladau cyhoeddus mwyaf nodedig Cymru ar gynllun dull ‘Chateau’ anarferol. Hwyrach mai dyma gydnabyddiaeth gan Percy Thomas o statws treftadaeth y castell.

Disodlwyd Cyngor Sir Gaerfyrddin gan gyngor mwy o faint, sef Cyngor Sir Dyfed, yn 1974; yn 1996 daeth awdurdod unedol Cyngor Sir Caerfyrddin i fodolaeth.

Diolch i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA31 1JP    Map