Grave of John Owen

menai_bridge_grave_john_owenJohn Owen (d.1830)

In this area of the cemetery you can see several small headstones marking the graves of poor people. Most have no inscriptions, but this one does. The Welsh words explain that John Owen, buried here, died on 30 September 1830, aged 75, and that four of his children are also buried here.

The inscription describes John Owen as y Porthwr, which means “the Feeder”. A feeder’s job was to keep livestock fed, on behalf of a farmer.

A Government investigation of agricultural employment in 1892 found that feeders on Anglesey received some of the highest wages of all farm labourers. This reflected that feeders worked for about an hour more each day than other labourers and that their duties on Sundays prevented them from attending evening worship in church or chapel.

In 1898, O Jones & Sons – farmers and butchers in Menai Bridge – advertised for a porthwr. They sought a man who was single or a widower, c.50 years old, sober and of good character. They promised to provide food, lodgings and a fair wage.

Return to Church Island graveyard page

 

 

Bedd John Owen

Yn yr ardal hon o'r fynwent, gallwch weld nifer o gerrig beddi bychain sy'n dynodi mannau gorffwys olaf pobl dlawd. Nid oes arysgrifau ar y rhan fwyaf ohonynt, ond yma mae’r ychydig eiriau yn esbonio mai John Owen a gladdwyd yma wedi iddo farw ar 30 Medi 1830, yn 75 oed, a bod pedwar o'i blant hefyd wedi'u claddu yma.

Mae'r arysgrif yn disgrifio John Owen fel “y Porthwr”. Gwaith porthwr oedd cyflenwi bwyd i’r da byw, ar ran ffermwr.

Pan ymchwiliwyd cyflogaeth amaethyddol Ynys Môn gan y Llywodraeth yn 1892, cofnodwyd bod y porthwr yn ennill un o’r cyflogau uchaf o’r holl gweithwyr fferm. Roedd hyn yn adlewyrchu bod porthwyr yn gweithio tua awr mwy pob dydd na’r lleill, a bod eu dyletswyddau ar y Sul yn eu hatal rhag addoli yn yr eglwys neu'r capel.

Yn 1898, hysbysebodd O Jones a’i Feibion – ffermwyr a chigyddion ym Mhorthaethwy – am borthwr. Roeddent yn gofyn am ddyn a oedd yn unigol neu’n ŵr gweddw, tua 50 oed, yn sobr ac o gymeriad da. Roeddent yn addo darparu bwyd, llety a chyflog teg.

Yn ôl i dudalen mynwent Llandysilio