Hen ysbyty’r Groes Goch, Machynlleth

PWMP logoSefydlwyd ysbyty ar y safle hwn wrth i’r Groes Goch ddefnyddio cyn safle’r Wyrcws o 1917 ymlaen. Heddiw, dyma safle Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi - gofynnir ichi beidio mynd mewn neu barcio ar y safle ond bai fod gennych reswm i fynd i’r ysbyty.

Roedd y Wyrcws yn cynnig llety a gwaith i dlodion y dref. Ym Mai 1873 roedd yn gartref i 6 o ddynion, 15 menyw ac 16 o blant. Ym 1893 derbyniodd Bwrdd y Gwarcheidwaid (oedd yn gyfrifol am reoli’r Wyrcws) lythyr gan dlotyn oedd yn honni fod un o swyddogion y Wyrcws wedi ei chyhuddo o ladd pedwar mochyn trwy “eu witsio”!

Yn ystod Gwanwyn 1914, penderfynodd y gwarcheidwaid gau’r Wyrcws, ar ôl symud y sawl oedd dal yn fyw yno i sefydliadau mewn cymunedau eraill. Yn fuan wedi cychwyn y rhyfel, cynigiodd y Gwarcheidwaid safle Wyrcws Machynlleth i’r Groes Goch i’w defnyddio fel ysbyty milwrol.

Agorwyd ysbyty ategol y Groes Goch yma ym mis Awst 1917, gyda gwelyau ar gyfer 48 o filwyr er mwyn iacháu ar ôl cael eu hanafu.  Mrs Bonsall, Galltyllan oedd y pennaeth; hi oedd llywydd Cymdeithas Nyrsio Machynlleth a’r Ardal. Menywod lleol oedd y nyrsys oedd wedi treulio tair blynedd yn hyfforddi. Roedd y meddygon yn rhoi eu gwasanaethau’n rhad ac am ddim.

Roedd rhoddion gan bobl leol a llawer o ddigwyddiadau codi arian yn cefnogi’r ysbyty. Byddai plant ysgol a thrigolion eraill yn trefnu diddanu’r milwyr a anafwyd. Cynigiwyd gemau biliards yn rhad ac am ddim i’r cleifion cryfaf yn Institiwt Owain Glyndŵr.

Yn Rhagfyr 1918 gwisgodd cleifion yr ysbyty mewn gwisg ffansi cyn gorymdeithio trwy’r dref fel rhan o “garnifal buddugoliaeth” a gynhaliwyd yn bennaf yn neuadd y dref.

Ar ôl y rhyfel, roedd y Gwarcheidwaid wedi ystyried newid yr hen Wyrcws yn ysgol, ond parhaodd fel ysbyty, gan droi’n ganolfan rhanbarthol yn y pen draw i drin afiechydon y frest. Heddiw mae’n cynnig gwasanaethau adsefydlu, therapi a gwasanaethau eraill.

Cod post: SY20 8AD    Map

I barhau ar y daith ar thema’r Rhyfel Byd Cyntaf trwy Fachynlleth, ewch tua’r de ar hyd Ffordd Garth. Trowch i’r dde i Heol Maengwyn. Croeswch y ffordd ac ewch yn eich blaen. Y lleoliad nesaf yw’r oriel gelf, ar ôl yr eglwys, ar y chwith
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button