Gorsaf bad achub Abersoch

Gorsaf bad achub Abersoch, Min-y-Don

abersoch_lifeboat_station.
Sefydlodd y Royal National Lifeboat Institution orsaf bad achub yn Abersoch ym 1869. Cost adeiladu’r tŷ cwch oedd £170. Dim ond blwyddyn yn ddiweddarach, derbyniodd yr orsaf ei fedal arian cyntaf - a ddyfarnwyd i'r ysgrifennydd, y Parch Owen Lloyd Williams, am ei gyfraniad at achub 13 o ddynion o'r llong Kenilworth. Derbyniodd fedal arian arall ym 1879 am ei gwasanaethau dewr gyda badau achub Abersoch a Phorthdinllaen.

Mae’r llun uchaf (diolch i’r RNLI) yn dyddio o 1869 i 1892 ac yn dangos y tŷ cwch a’r bad Mabel Louise ar y cerbyd a ddefnyddiwyd i symud y bad at y môr ac yn ôl.

Codwyd yr adeilad sydd bellach yn cael ei adnabod yn lleol fel yr hen orsaf bad achub ym 1894, gyda'i llithrfa, ar gost o £1,350. Mae’r llun isaf (diolch i’r RNLI) yn dyddio o tua 1894 ac yn dangos aelodau’r criw efo’r bad achub ON335 Oldham. Caeodd yr orsaf ym 1931.

abersoch_lifeboat_c1894Ym 1965 agorodd gorsaf bad achub gyda’r glannau (inshore) yn Abersoch, efo bad achub dosbarth D. Adeiladwyd tŷ cwch newydd ym 1994, gyda lle ar gyfer y bad achub yn ogystal â'i troli a’r tractor sy'n tynnu’r bad at y môr ar gyfer lansio.

Yn 2002 derbyniodd yr orsaf o bad achub Atlantic 75, a enwyd Margaret Bench of Solihull ar ôl y ddynes a adawodd y pres i dalu am y gwch yn ei hewyllus. Mae trigolion gorllewin canolbarth Lloegr wedi ariannu badau achub yn Abersoch ers 1978.

Darperir gwasanaeth bad achub y DU nid gan y llywodraeth ond gan elusen yr RNLI. Ers ei sefydli ym 1824, amcangyfrifir i’r RNLI achub tua 140,000 o fywydau. Mae’n cyflogi rhai aelodau criw on mae’r mwyafrif, rhyw 40,000, yn wirfoddolwyr sy’n gadael eu gwaith, teuluoedd neu gwelyau i ateb galwadau brys.

Côd post: LL53 7AG    Map

Gwefan RNLI

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button