Yr enw 'Berry Street', Conwy

Efallai y daw yr enw ‘Berry Street’ â delweddau dymunol o ffrwythau suddlon i’r cof, ond yn ôl traddodiad mae tarddiad yr enw yn dywyllach.

Daeth y Pla Mawr, neu'r Pla Du, i Brydain am y tro cyntaf yn Llundain yn ystod gwanwyn 1665. Daeth yr achosion cyntaf yng Nghonwy i'r amlwg yn weddol fuan wedyn. Lledaenwyd pla bubonig gan chwain ar lygod mawr, ac efallai ei fod wedi cyrraedd Conwy ar long.

Cyn hir, roedd pobl yn marw o'r Pla Mawr yng Nghonwy mor aml fel bod y broses gladdu arferol wedi'i llethu. Dywedir i fedd torfol gael ei gloddio yng nghornel fwyaf gogleddol y dref gaerog, lle saif Berry Street heddiw, a bod enw’r stryd yn dod o’r ferf ‘to bury’. Yn unol â’r stori erchyll hon, mae rhai o drigolion y stryd wedi honni bod gan yr ardal hon ei ysbryd ei hun!

Photo of Berry Street Conwy in 1937Mae map o 1776, a ddiwygiwyd ym 1810, yn cymhwyso'r enw Burial Street i'r hyn sydd bellach yn Berry Street a Chapel Street. Mae cynlluniau ar gyfer gwerthu stad Bodlondeb ym 1866 yn dangos Berry Street fel Bury Street.

Fodd bynnag, mae’n debyg bod tarddiad enw’r stryd yn rhagddyddio’r pla ers canrifoedd. Mae Bury yn amrywiad o'r gair Hen Saesneg byrig neu burh, sy’n dynodi annedd o fewn clostir caerog megis tref gaerog.

Gwelir yr hen lun yma trwy garedigrwydd Gwasanaeth Archifau Conwy. Tynnywd gan Walter Harris ym mis Mai 1937 i ddangos baneri yn Berry Street i ddathlu coroni’r Brenin Siôr VI. Mae'r milwyr yn gorymdeithio o Fodlondeb. Y dynion yn y blaen yw ‘arloeswyr’ y gatrawd, yn gwisgo ffedogau bwchgroen gwynion seremonïol a dyrnfolau (‘gauntlets’) wrth gario teclynau traddodiadol.

Gyda diolch i Ray Castle ac Adrian Hughes

Côd post: LL32 8DG    Map

Gwefan Gwasanaeth Archifau Conwy

Ghosts and Legends Tour Lable Navigation previous buttonNavigation next button