Bro Helen Rowlands, Porthaethwy

Logo of Welsh Place Name Society

Bro Helen Rowlands, Porthaethwy

Mae enw ar y lôn ar ochr chwith Tabernacl, capel yr Annibynwyr, yn coffáu’r genhades Helen Rowlands. Mae’r capel ei hun yn adeilad pwysig yn y rhan hon o’r dref; cafodd ei adeiladu yn 1867, yn y dull Gothig Syml yn unol â chynllun pensaer o Abertawe

Ganed Helen Rowlands (1891-1955) yn 1 Fairview Terrace. Yn y 1970au mabwysiadodd y lôn hon enw ychwanegol sef Bro Helen Rowlands i’w choffáu hi. Roedd Helen Rowlands yn ysgolhaig disglair; Ffrangeg oedd ei chariad cyntaf ond aeth ati i astudio iaith a thraddodiadau merched Bengal. Bu’n astudio yng Nghaergrawnt ac yn y Sorbonne.

Gwrthododd gyfleon am gadeiriau mewn sawl prifysgol yn America, Prydain ac India gan ddewis cysegru ei bywyd i waith cenhadol ac addysgol yn India. Canolbwyntiodd ei hymdrechion ar gyflwr merched a phlant amddifaid. Bu’n amlwg gydag ysgolion iaith a chyda’r Eglwys Bresbyteraidd yn India. Cyfrannai i amryw gyfnodolion llenyddol ac efengylaidd yn India a Chymru. Bu farw yn Karimganj, yn Assam. Yr enw ar lyfrgell y coleg yno yw Neuadd Rowlands. Mae cofeb iddi yng Nghapel Mawr, capel y Presbyteriaid ym Mhorthaethwy lle roedd yn aelod.

Yr enw Saesneg ar y ffordd o flaen y Tabernacl yw St George’s Road am ei fod yn arwain at y pier a ddefnyddid yn wreiddiol gan y St George's Steam Packet Company.

Yn y 1970au gosodwyd enw Cymraeg ar y fordd  hon sef Ffordd Cynan i goffáu Syr Cynan Evans-Jones CBE a drigai yn Pen Maen (ar ben gorllewinol y stryd) er 1932. Cafodd ei fedyddio’n Albert Evans-Jones, ond fe’i hadweinir dros Gymru gyfan wrth ei enw barddol sef Cynan. Ac yntau’n frodor o Bwllheli roedd yn adnabyddus fel bardd, dramodydd, pregethwr, cynhyrchydd, cyfarwyddwr pasiantau a thiwtor yn Adran Efrydiau Allanol Prifysgol Bangor. Cafodd ei urddo’n farchog yn 1969.

Roedd Cynan yn amlwg yng ngweithgareddau’r Eisteddfod Genedlaethol: bu’n Archdderwydd ddwywaith; aeth ati’n egnïol i ailwampio trefniadaeth yr Eisteddfod ynghyd â rhai o’i defodau. Enillodd goron yr Eisteddfod deirgwaith a bu’n llwyddiannus, yn ogystal, yng nghystadleuaeth y gadair. Roedd yn un o feirniaid eisteddfodol mwyaf poblogaidd Cymru. Bu’n llwyddiannus hefyd yng nghystadleuaeth y ddrama. Mae’n gorffwys ar Ynys Tysilio, Porthaethwy.

Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen a David Thorne o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Chyngor Tref Porthaethwy

Côd post: LL59 5EP    Map

Gwefan gwybodaeth Capel Tabernacl

Place Names Unbundled Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button