Caer Blocws y Gorllewin

Logo of Pembroke NPACodwyd amddiffynfeydd ar y pentir hwn ar hyd y canrifoedd i amddiffyn dyfrffordd strategol holl bwysig Aberdaugleddau rhag ymosodiad gan fyddinoedd Ffrainc, Sbaen neu’r Almaen.

Yn 1539 rhoddodd y Brenin Harri’r VIII orchymyn i adeiladu dau flocws carreg, wedi’u harfogi â gynnau, wrth geg y ddyfrffordd. Nid oes dim yn weddill bellach o’r adeiladwaith Tuduraidd ym Mlocws y Gorllewin. Yn y chwaer flocws ar y lan gyferbyn, Blocws y Dwyrain, mae rhywfaint o’r gweddillion Tuduraidd wedi goroesi hyd heddiw.

Cafodd yr adeilad a welir heddiw ym Mlocws y Gorllewin, a adeiladwyd o galchfaen nadd cywrain, ei adeiladu o 1854 i 1857 mewn ymateb i’r tensiynau oedd yn ail gyniwair rhwng Prydain a Ffrainc. Adeiladwyd tair caer arall gerllaw yr un adeg, yn Dale Point (i’r gogledd) ac ar ynys Stack Rock ac ynys Thorn (i’r dwyrain, ar draws y dŵr).

Roedd lle ym Mlocws y Gorllewin i rhyw 40 o filwyr fyw yno a 6 gwn 68-pwys, a’r 6 ohonynt yn 3 metr o hyd, a’r bwriad ar eu cyfer oedd dymchwel mastiau unrhyw long o Ffrainc feiddiai fordwyo i fyny’r ddyfrffordd. Roedd dyluniad y gaer yn golygu ei bod wedi’i diogelu rhag ymosodiad o’r tir. Gwanhau wnaeth y bygythiad o oresgyniad a segur fu hanes y gynnau.

Cafodd yr amddiffynfeydd o gwmpas Aberdaugleddau eu huwchraddio ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Adeiladwyd magnelfa ynnau newydd y tu allan i gaer Blocws y Gorllewin, a adnewyddwyd a’i harfogi â gynnau modern. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf y Fagnelaeth Frenhinol oedd yn rhedeg y lle ond ni fu gofyn iddynt saethu’r un fwled. Ar ôl 1918 staff gofalu oedd yn y gaer, ac fe’i defnyddiwyd ar gyfer cynnal ymarferiadau.

Rhaid oedd aros tan yr Ail Ryfel Byd cyn i’r fagnelfa gael achos i saethu ei fwledi cyntaf, a hynny gan fwyaf at awyrennau’r Almaen oedd â’r dasg o fomio iard longau’r llynges yn Noc Penfro. Caewyd y fagnelfa yn 1956. Prynodd Landmark Trust Blocws y Gorllewin yn 1969 i’w adnewyddu a’i gadw. Mae seiliau lleoliadau’r gynau o’r ugeinfed ganrif i’w gweld ar ochr y tir o Lwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro (rhan o Lwybr Arfordir Cymru).

Cyfeirnod Grid: SM81690359    Map

Gwefan Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button