Canolfan Cregyn Gleision Conwy

button-theme-history-for-all

British Sign Language logoCanolfan Cregyn Gleision Conwy, cei Conwy

Mae pobl wedi bod yn hel cregyn gleision o foryd Conwy am filoedd o flynyddoedd. Roedd y Rhufeiniad yn enwedig yn hoff ohonynt oherwydd ansawdd y perlau oedd i’w cael yn rhai o’r cregyn.

Ar 19eg ganrif, roedd cregyn gleision Conwy yn dal i gynhyrchu niferoedd sylweddol o berlau – roedd y cig blasus y tu fewn yn cael ei ddefnyddio i fwydo’r anifeiliaid yn bennaf! Roedd y mwyafrif o’r perlau yn cael eu hanfon at emyddion yn Llundain.

Mae rhai teuluoedd wedi bod yn hel cregyn gleision Conwy ers sawl cenhedlaeth. Ym 1853, bu i’r heliwr cregyn gleision Richard Roberts syrthio i’r afon wrth gamu o un cwch i’r llall. Ysgubwyd ef gan lif yr afon a bu iddo foddi cyn i unrhyw un allu ei helpu.

Roedd y teuluoedd a oedd yn hel cregyn gleision yn parchu’r is-ddeddfau a oedd yn eu gwahardd rhag hel cregyn gleision yn yr haf, ond ym 1897, cafodd dyn ei ddirwyo am hel cregyn gleision yn yr afon ym mis Gorffennaf. Dywedodd wrth yr ynadon ei fod ond wedi cymryd digon ar gyfer ei hun.

Ar ddechrau’r 20ed ganrif, daeth gwenwyn bwyd ar ôl bwyta pysgod cregyn yn fater iechyd cyhoeddus sylweddol, ac ar un adeg, caewyd gwelyau cregyn gleision Conwy er diogelwch. Sefydlodd y llywodraeth ganolfan ymchwil yn Castle Bank, Conwy, lle y datblygwyd dull o buro cregyn gleision. Mabwysiadwyd y dull yn fasnachol, i alluogi’r cyhoedd i fwyta cregyn gleision â hyder. Am fwy o wybodaeth ar yr ymchwil, cliciwch yma.

Caiff cregyn gleision eu puro yng Nghanolfan Cregyn Gleision Conwy drwy eu gosod mewn dŵr glân am ddeuddydd. Mae’r adeilad yn ganolfan wybodaeth am gregyn gleision yn yr haf.

Côd post: LL32 8BB    Map

Gwefan Cregyn Gleision Conwy

Wales coast path tour button Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button