Cofeb Caernarfon, Y Maes

Caernarfon town council logoCofeb Caernarfon, Y Maes

Codwyd y piler carreg hwn ym 1922 i goffau’r dynion lleol a fu farw yn y Rhyfel Mawr. Ychwanegwyd enwau’r bobl a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd yn ddiweddarach.

I ddarllen y manylion amdanynt, dewisiwch un o’r categorïau isod. Rydym wedi cynnwys manylion pobl oedd â chysylltiadau â Chaernarfon ond nas enwyd ar y gofeb. Maent yn cynnwys William Evan Thomas, a fu farw wrth wasanaethu llynges Ffrainc pan darwyd ei long HMS Champagne gan dorpîdo ym 1917.

Yr unig ddynes a enwir ar y gofeb yw Olga Hilton Parry – ei thad oedd Dr W Hilton Parry o Stryd y Castell. Derbyniodd ef y Groes Filwrol am ei wrhydi’n arwain tîm o ddynion a gariai elorau cleifion ger y ffrynt yn y Rhyfel Mawr. Roedd Olga, 18 oed, yn gweithio fel nyrs yn Llundain. Roedd hi ymhlith 16 o gleifion a staff a laddwyd yng nghyrchoedd bomio’r Natsïaid dros Lundain pan laniodd bom ar ei hysbyty ar 17 Mehefin 1944, ddyddiau’n unig ar ôl I’r Cynghreiriaid lwyddo i sefydlu eu hunain yn Ffrainc ar ôl glaniadau D-Day.

Mae draig goch yn goron ar y gofeb. Mae tarian Tref Frenhinol Caernarfon wedi’i cherfio ar un ochr. Mae’r addurniadau castellog ar frig y rhan isaf yn adlewyrchu pensaernïaeth y castell ben arall y Maes.

Ar ddwy ochr y gofeb, ceir plac yn dwyn teitl y ddau ryfel, yn Gymraeg, a’r cysegriad canlynol: “Arwyddlun serch ac edmygedd Caernarfon i gofio’r dewrion a aberthodd eu bywydau dros eu gwlad a’r brenin ar dir, ar fôr ac yn yr awyr.”

Côd post: LL55 2ND    Map

Y Rhyfel Byd Cyntaf cyfenwau A-J

Y Rhyfel Byd Cyntaf cyfenwau K-W

Yr Ail Ryfel Byd cyfenwau A-W