Cofeb rhyfel Llanfairpwll

Cofeb rhyfel Llanfairpwll

llanfairpwll_war_memorialCloc wedi ei wneud o galchfaen o un o chwareli Moelfre yw Cloc Coffa Llanfair Pwllgwyngyll. Roedd rhai yn y gymuned o blaid anrhydeddu’r meirw gyda Neuadd Goffa, eraill o blaid cloc. Gofynnwyd yn y pen draw i’r pensaer o Gaernarfon Robert Pierce, a fagwyd yn Llanfair, i ddylunio tŵr y cloc.

Dadorchuddiwyd y gofeb fis Hydref 1932 gan yr Is-gyrnol O H Stanley. Does yna ddim sôn ar y daflen swyddogol am Ardalydd Môn, y tirfeddiannwr mawr lleol. Yr oedd o wedi dadlau dros Neuadd Goffa yn hytrach na chloc.

Yn ddiweddarach fe ychwanegwyd plac yn rhestru’r dynion lleol a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd.

I ddarllen manylion y meirw, dewiswch restr isod.

Mae’r hanesydd lleol Gerwyn James wedi ysgrifennu llyfr am hanes y Rhyfel Mawr a'r frwydr dros y gofeb, sef Y Rhwyg (Gwasg Carreg Gwalch, 2013). Rydym yn ddiolchgar iddo am ei ganiatâd i ddefnyddio peth o’i waith ymchwil ac am ddarparu manylion ynglŷn â meirw’r Rhyfel Byd Cyntaf yn Gymraeg.

Côd post: LL61 5UJ    Map

Y Rhyfel Byd Cyntaf

Yr Ail Ryfel Byd

Telfords Irish Road Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button