Cofeb streic y chwarel, Bethesda

Cofeb streic y chwarel, Bethesda

Gosodwyd y llechen hon yn y fan hon yn 2000 i gofio canmlwyddiant dechrau streic chwarel y Penrhyn, streic a barhaodd am dair blynedd.

Yr Arglwydd Penrhyn oedd perchen y chwarel lechi fawr i'r de o Fethesda. Castell Penrhyn oedd ei gartref bryd hynny, ac mae hwnnw bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cododd anghydfod rhwng y rheolwyr a’r gweithwyr yn y chwarel yn y 19eg ganrif. Cychwynodd y streic fawr ar 22 Tachwedd 1900: parhaodd tan Tachwedd 1903.

Mudodd cannoedd o chwarelwyr o’r ardal yn ystod y streic. Aeth llawer i chwilio am waith ym mhyllau glo De Cymru. Roedd amodau byw ym Methesda yn anodd, a chafwyd o leiaf ddwy fenyw leol yn euog o weithio fel puteiniaid ym Mangor.

Daeth cefnogaeth i’r rheini a arhosodd ym Methesda o bob cwr o Brydain. Danfonodd cwmni yn Ashton-under-Lyne, Swydd Gaerhirfryn, bwdin Nadolig anferth a oedd yn pwyso 2.5 tunnell! Am flynyddoedd lawer canai’r plant lleol gân orfoleddus am y pwdin hwnnw. Ac yn 2014 gwnaed y recordiad hwn o’r gân gan ddisgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen, a’u hathro cerdd Hefin Evans. : Pwyswch "chwarae", neu lawrlwythwch ffeil mp3 (659KB)

Mae’r geiriau’n barodi ar yr emyn Wele cawsom y Meseia. Cyfeiria "Young" at E A Young rheolwr y chwarel.

Wele cawsom ym Methesda
Y pwdin gorau gaed erio’d.
Chlywodd Young nag Arglwydd Penrhyn
Ddim amdano cyn ei ddod.
Pwdin yw, du ei liw,
Y gorau brofodd neb yn fyw.


Map

TROEDNODIADAU: Cefndir y streic

button_tour_StrikesAndRiots-E Navigation previous buttonNavigation next button
Telfords Irish Road Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button