Mynydd y Dref, Conwy

Mynydd y Dref, Conwy

I’r gogledd-orllewin o dref gaerog Conwy y saif Mynydd y Dref. Gweddillion echdoriadau llosgfynyddol rhyw 450 miliwn o flynyddoedd yn ôl ydi’r creigiau. Yn y cyfamser, gwthiwyd y rhain i fyny a’u gwyro gan symudiadau cyfandirol.

Rhoddwyd Mynydd y Dref i Abaty Aberconwy gan Llywelyn Fawr yn a 13eg ganrif. Yn hwyrach yr un ganrif, symudodd y Brenin Edward I y mynachod a chynnwys Mynydd y Dref yn nhiroedd y tref fel y’u diffiniwyd yn Siarter Brenhinol Conwy. Mae’r mynydd yn dal yn nwylo cyhoeddus lleol, o dan reolaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Caniateir i borwyr cofrestredig ddod â’u defaid i’r mynydd i bori (felly mae’n rhaid cadw cwn o dan reolaeth).

Gwelir yma hefyd rhai o ferlod gwyllt y Carneddau. Credir fod y brid hwn wedi byw yn Eryri ers canrifoedd neu filoedd o flynyddoedd. Mae’r gigfran a’r bwncath yn hedfan yn nghyffiniau Mynydd y Dref.

Yn yr haf mae’r mynydd yn troi’n borffor gyda blodau grug y mêl (bell heather). Ymhlith y planhigion eraill y mae eithin (blodau melyn o fis Ionawr tan ganol haf), eithin mân (western gorse – blodau melyn llai, yng nghanol yr haf), llus (aeron glas, melys) a’r gerddinen. Mae rhedyn yn tyfu yn y pridd asidig a geir o erydiad y creigau llosgyfynyddol. Yn is ar y llethrau ceir coed megis bedw, derw, pinwydd a’r gerddinen wen.

Chwaraeodd Mynydd y Dref rhan bwysig yn hanes Prydain yn hwyr yn yr 18eg ganrif, pan aflonyddwyd ar y cyflenwad o meini melin o Ffrainc o ganlyniad i’r chwildro yno a’r rhyfela rhwyng Prydain a Ffrainc. Torrwyd cregiau llosfynyddol cnepynnaidd (nodular) o Fynydd y Dref fel trionglau a’u clymu i greu meini melin. Danfonwyd y rhain o gwmpas Prydain i sicrhau cynhyrchiad blawd.

Enwau mynyddoedd - a welir o Fynydd y Dref

Map

Gwefan Gwasanaeth Cefn Gwlad Conwy

Wales coast path tour button Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button