Cylchoedd cerrig Cefn Coch

Cylchoedd cerrig cynhanesyddol, Cefn Coch, Penmaenmawr

penmaenmawr_stone_circle_18th_centuryMae’r ucheldir i’r de o Benmaenmawr yn frith o olion cynhanesyddol, yn cynnwys cylchoedd cerrig. Gellir ymweld â’r Meini Hirion, un o’r cylchoedd cerrig gorau, trwy gerdded ychydig i ffwrdd o Lwybr Arfordir Cymru. Mae’r enw Saesneg, Druid’s Circle, yn gamarweiniol oherwydd gosodwyd y cerrig yma yn eu llefydd ganrifoedd cyn dyfodiad y derwyddon. Datguddiodd cloddio yma yn y 1950au olion plant wedi’u amlosgi. Roedd y gweddillion wedi’u cadw mewn yrnau o math na’i ddefnyddiwyd wedi 1400CC.

Mae’r darlun (trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru) yn dangos un o’r cylchoedd cerrig yn y 18fed ganrif ac fe ymddangosodd yn llyfrau Thomas Pennant am ei deithiau yng Nghymru yn y 1770au. Nododd bod gan y cylch mwyaf 10 maen a oedd yn dal i sefyll a bod y mwyaf ohonynt yn codi 2.5 metr uwch y ddaear.

Roedd y cylchoedd cerrig, ac olion eraill a welwn heddiw, wedi’u lleoli wrth ymyl ffordd a oedd yn bwysig filoedd o flynyddoedd yn ôl. Mae rhai olion o’r ffordd wedi goroesi rhwng fferm Bryn Derwydd a Chors y Carneddau.

penmaenmawr_stone_circleRoedd yr ardal yma yn bwysig tua 3000CC oherwydd y math o graig ar Benmaenmawr, sef augite granophyre. Roedd hyn yn ddelfrydol ar gyfer bwyeill cerrig, a oedd yn hanfodol i ddatblygiad pobol. Mae’n hawdd rhoi min ar y cerrig, sydd hefyd yn ddigon cadarn i weithredu fel pen bwyell. Hefyd mae’n bosibl sgleinio’r garreg. Mae archeolegwyr wedi darganfod pennau bwyeill o Benmaenmawr o amgylch Prydain, yn cynnwys yn yr Alban, Swydd Efrog a Dyffryn Tafwys.

Roedd yna bentref cynhanesyddol mawr ar ben y mynydd i’r gorllewin o dref Penmaenmawr heddiw. Chwalwyd y gweddillion gan chwarela yn y 19ed a 20ed ganrifoedd, ond fe wnaeth archeolegwyr astudiaethau o flaen llaw.

Map

HiPoints CYNHANESYDDOL lleol eraill:
Caer Oes yr Aearn, Mynydd y Dref

Wales coast path tour button Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
Pilgrim's Way Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button