Cofeb awduron yr anthem, Parc Ynysangharad

Cofeb awduron yr anthem, Parc Ynysangharad

Cafodd y gofeb ei dadorchuddio yng Ngorffennaf 1930. Y dylunydd oedd Syr William Goscombe John. Mae'n coffau’r tad a'r mab, Evan a James James, a ysgrifennodd yr anthem genedlaethol Hen Wlad fy Nhadau. I wrando ar yr anthem, drwy garedigrwydd Côr Meibion ​​Pontypridd a Band Parc & Dare, pwyswch Chwarae: Neu, lawrlwythwch mp3 (1.65Mb)

Cyfansoddwyd yr alaw, gyda’r enw gwreiddiol Glan Rhondda, gan James James, a ofynodd wedyn i'w dad i ysgrifennu geiriau a fyddai’n cyd-fynd. Yn ôl fersiwn arall o'r stori, ysgrifennodd Evan y geiriau’n gyntaf, ac fe gyfansoddodd James gerddoriaeth i gyd-fynd. Mae’r copi hynaf o'r gân, yn llawysgrifen James, yn ddyddiedig Ionawr 1856 ac mae'n cynnwys pob un o'r tri penill ond dim ond y llinell felodig (heb harmoni).

Yn Eisteddfod Genedlaethol 1858, roedd y dôn yn rhan o gasgliad o alawon a enillodd y wobr gyntaf. Cynhywysodd y beirniad, John Owen (“Owain Alaw”), y dôn yn ei flodeugerdd Gems of Welsh Melody yn 1860, ac fe ledaenodd enwogrwydd y gân yn gyflym. Roedd y gân wedi cael ei chysoni (ar gyfer soprano, alto, tenor a bas) ar gyfer y detholiad.

Roedd Evan James (1809-1878) yn werthwr gwlân, tafarnwr a gwehydd yn Bedwellte pan ganed ei fab James (1833-1902), yn un o saith o frodyr a chwiorydd. Yn ddiweddarach symudodd y teulu i Bontypridd, lle rhedai Evan ffatri wlân yn Stryd y Felin a pharhaodd i farddoni yn ei amser hamdden. Claddwyd Evan yng Nghapel Carmel y Bedyddwyr, Pontypridd.

Cadwai James James dafarndai i ennill bywoliaeth. Roedd hefyd yn delynor. Fe’i gladdwyd ym mynwent Aberdâr, ei dref preswyl olaf.

Nodiadau cerddorol: Mae’r llawysgrif o 1856 yn wahanol i'r fersiwn cyfarwydd mewn sawl agwedd. Mae'r dôn yng nhgywair F fwyaf, yn hytrach na'r E-meddalnod sy’n gyfarwydd i ni. Mae E-meddalnod yn is nag F, ac efallai yn rhoi naws mwy aeddfed i’r gân.

Ysgrifennodd James James bar cyfan o saib ar ôl y ddau ebychiad o “Gwlad”, ond hepgor y ddau a wnawn heddiw. Mae bar olaf ond un y pennill a'r gytgan yn cynnwys tri crosiet cyson yn y llawysgrif, ond heddiw rydym yn trawsacenu (rhythm sgipio) ar y geiriau “collasant” a “hen iaith”.

Gyda diolch i Gôr Meibion ​​Pontypridd a Band y Parc a Dare

Map

Parc Ynysangharad ar wefan Rhondda Cynon Taf

Gwefan Côr Meibion Pontypridd

TROEDNODIADAU: Geiriau'r anthem


  
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button