Man geni Ruth Ellis, Y Rhyl

button-theme-womenbutton-theme-crime

Man geni Ruth Ellis, Y Rhyl

Ganed Ruth Ellis yn y bloc o dai pedwar llawr sy’n wynebu'r promenâd yma. Yn 1955, hi oedd y ddynes olaf gael ei dienyddio yn y DU – yn ddadleuol.

Fe’i ganed mewn tŷ ar Rodfa’r Gorllewin ym mis Hydref 1926. Symudodd i Hampshire yn ystod ei phlentyndod. Gweithiodd fel croesawferch mewn bar a phutain. Disgrifiwyd hi yn aml fel “platinum blonde”.

Cafodd Ellis berthynas rhamantus gyda’r gyrrwr ceir rasio David Blakely, a addysgwyd mewn ysgol gyhoeddus. Roedd ganddo menywod eraill ac roedd ganddi hi ei hun gariad arall. Roedd hyn yn destun cenfigen a dadlau meddwol rhyngddynt, pryd y byddai Blakely yn trin Ellis yn dreisgar. Ym mis Mawrth 1955, yn ôl Ellis, fe ddioddefodd hi gamesgoriad ar ôl i Blakely ei tharo yn ei hystumog. Ym mis Ebrill, ar ôl ymdrechion ofer i gysylltu ag ef, arhosodd Ellis y tu allan i dafarn yn Llundain cyn saethu Blakely yn farw.

Yn yr Old Bailey ym mis Mehefin, cymerodd y rheithgor lai na hanner awr i gael Ellis yn euog o lofruddiaeth. Roedd hi wedi gwrthod pledio gwallgofrwydd ac yn dadlau ei bod wedi ymateb i bryfociad. Credai ei bod yn haeddu’r gosb eithaf, a dywedodd: “Rwy’n ddigon hapus i farw.” Cafodd ei chrogi yng Ngharchar Holloway yn Llundain ar 13 Gorffennaf gan y crogwr Albert Pierrepoint.

Cyn iddi gael ei chrogi, llofnododd miloedd o bobl deisebau yn gofyn am leihau’r gosb. Gwrthododd yr Ysgrifennydd Cartref Gwilym Lloyd George (mab y Prif Weinidog Rhyddfrydol David Lloyd George) yr apêl terfynol i achub Ellis.

Cynyddodd achos Ruth Ellis y ddadl am gyfiawnder troseddol a'r gosb eithaf. Digwyddodd y dienyddiad gwryw olaf ym 1964 a diddymwyd y gosb eithaf yn ffurfiol ym Mhrydain yn 1969.

Gyda diolch i Ruth Pritchard o Glwb Hanes Y Rhyl

Cod post : LL18 1HN    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button

 
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button