Cymraeg Britain's oldest Punch & Judy

Button link to kids version of page

Punch a Judy hynaf Prydain

Mae'r ardal hon o bromenâd Llandudno yn gartref i’r sioe bypedau Punch a Judy mwyaf hirhoedlog ym Mhrydain, a sefydlwyd gan Richard Codman ym 1860.

Cafodd ei eni yn Norwich ym 1831 i deulu Romani a hanai o Hwngari. Daeth yn ddiddanwr teithiol, yn chwarae banjo a ffidil mewn ffeiriau. Ym 1859 fe briododd Charlotte Asker o Birmingham ac etifeddodd carafán dyn sioe a dynnwyd gan ddau geffyl. Teithient o amgylch ffeiriau tan i un o'r ceffylau farw, yn fuan ar ôl iddynt gyrraedd Llandudno ym 1860. Roedd Richard yn rhy dlawd i brynu ceffyl arall, a gofynodd am ysbrydoliaeth a chyflogaeth. Daeth o hyd iddynt ym mroc môr y traeth, a gerfiodd fel pypedau Punch a Judy. Defnyddir yr un pypedau heddiw, yn ogystal â'r prosceniwm (yr arddurniadau o amgylch y theatr fach).

Cynhaliodd ei sioeau yn wreiddiol ger Gwesty'r Empire. Ym 1864 perfformiodd ar gyfer stad y teulu Mostyn, a rhoddwyd safle iddo ar y promenâd.

Pan arhosodd Brenhines Romania yn Llandudno, gofynodd i Richard befformio y tu allan i’w gwesty fel y gallai gwylio’r pypedau drwy ei ffenestr! Rhoddodd Richard pedwar perfformiad gorchmynol at gyfer y Frenhines Victoria a Thywysog a Thywysoges Cymru, yn Sandringham a Windsor.

Roedd angen cyflogaeth gaeafol arno, ac felly dechreuodd berfformio y tu allan i orsaf Lime Street yn Lerpwl. Cymerodd ei fab hynaf Richard drosodd yn Lerpwl ar ôl troi’n 18 oed. Wrth i swn y traffig dyfu, symudwyd y sioe i'r llwyfandir gerllaw Neuadd San Sior. Yn ystod y gaeafau bu Richard y tad yn perfformio yn y Rhyl (sioe Punchinella, fel rhagflaenydd Eidaleg Punch a Judy), Bournemouth, Hastings a Chaerefrog, ac fe deithiodd i’r Unol Daleithiau ddwywaith. Mae plac yn Amgueddfa Caerefrog yn coffau iddo ddiddanu “1,000 waifs and strays”.

Daeth pob un o’i bedair merch yn actoresau. Leah (enw llwyfan: Leah Marlborough) oedd y mwyaf enwog. Yn ystod blynyddoedd cynnar ffilm, teithiau John – mab arall i Richard – o amgylch neuaddau cerdd yng Nghymru a Swydd Gaerhirfryn gyda'i sinema symudol, yn dangos ffilmiau a oedd wedi eu gwneud ei hun. Hefyd fe sefydlodd rhai sinemâu parhaol cynnar.

Bu farw Richard y tad yn 1908. Cymerodd ei fab ieuengaf, Herbert, drosodd yn Llandudno. Bu farw Herbert ym 1961 a'i fab, John, parhaodd y sioe. Bu farw John ym 1980, cyn iddo gael y cyfle i ddysgu’r grefft i’w fab-yng-nghyfraith, Morris Millband. Dysgodd Morris y sioe trwy wylio tâp a adawyd gan John. Cymerodd Jason Codman Millband yr awenau yn 2008, y bumed genhedlaeth o'r teulu i redeg y sioe.

Gyda diolch i John Lawson-Reay, o Gymdeithas Hanes Llandudno a Bae Colwyn, a Jason Codman Millband

Ymhle mae’r HiPoint hwn?

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button