Penddelw Ron Watkiss, Neuadd Dewi Sant

Penddelw Ron Watkiss, Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

Roedd y Cynghorydd Ron Watkiss (1920-1991) yn ddylanwadol iawn o ran y gwelliannau a wnaed i ganol dinas Caerdydd o ddiwedd y 1960au hyd ddechrau'r 1980au. Ei rodd fwyaf i’r ddinas oedd creu Neuadd Dewi Sant. Datblygwyd y Neuadd law yn llaw â Chanolfan Siopa wreiddiol Dewi Sant, a ddisodlwyd yn ddiweddarach gan Ganolfan Siopa Dewi Sant.

Roedd Ron, cynghorydd Ceidwadol, yn arweinydd ar gyngor y ddinas yn yr wythdegau. Daeth yn Faer Caerdydd yn 1981 ac fe’i gwnaed yn CBE (Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig) am ei wasanaethau i brifddinas Cymru.

Mae’r penddelw efydd ohono wedi ei osod yn y cyntedd blaen yn Neuadd Dewi Sant (i’r dde o’r fynedfa). Fe’i cerfluniwyd gan Chris Kelly, fu’n astudio yn Athrofa Addysg Uwch Caerdydd ac sydd yn gweithio yn Harrogate, swydd Efrog. Mae’r darn yn cynnwys cefnlen o ddarluniadau cerfiedig o offerynnau cerdd a gwrthrychau eraill sy’n gysylltiedig â’r Neuadd.

Fe’i cyflwynwyd gan ffrindiau a chydnabod Ron. Fe’i dadorchuddiwyd ar 20 Mai 1992, dim ond blwyddyn wedi ei farwolaeth, gan Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Sainsbury i gyd-daro gyda dathliadau deng mlwyddiant y Neuadd.

Mae’r gornel hon o’r cyntedd blaen bellach wedi ei chadw at ddibenion hyrwyddo cerddorfa breswyl y lleoliad, sef Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Sefydlwyd y gerddorfa ym 1928.

Cod post: CF10 1AH    Map

Gwefan Neuadd Dewi Sant

 

St Davids Hall foyer  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button