Cymraeg Canadian war graves, Bodelwyddan

Beddau rhyfel Canada, Bodelwyddan

Mae mwy na 80 o ddynion a gwragedd gwasanaeth milwrol Canada wedi eu claddu y tu allan i Eglwys y Santes Margaret, Bodelwyddan. Roeddent ymhlith 17,400 o filwyr a oedd aros yn ngwersyll Parc Cinmel, ychydig i'r gorllewin o'r eglwys, pan ddaeth y Rhyfel Byd Cyntaf i ben ac am fisoedd wedi hynny. Roedd y rhan fwyaf (oddeutu 15,000) wedi gwasanaethu yn Ffrainc ac yn aros yma am longau i fynd adref.

Roedd epidemig ffliw Ewropeaidd 1918-1919 wedi lladd llawer yn y gwersyll. Daeth y Canadiaid yno yn fwyfwy rhwystredig ar ôl oedi ym Mhrydain cyhyd wedi diwedd y rhyfel. Roeddent wedi diflasu, roedd eu bwyd yn undonog a phrin iawn oedd yr arian a cawsant i brynu pethau fel sigaréts. Roedd eu swyddogion, fodd bynnag, yn mwynhau nosweithiau yn y Rhyl neu ymweliadau i Lundain.

Ar ddiwedd Chwefror 1919, dysgodd milwyr yn y gwersyll bod llongau mawr a glustnodwyd i fynd i Ganada wedi eu hail-neilltuo i filwyr o'r Unol Daleithiau a oedd wedi profi cymharol ychydig o’r brywdro a’r peryglon ar y Cyfandir. Ar 4 a 5 Mawrth 1919, torrodd aflonyddwch allan yn y gwersyll. Roedd trigolion lleol yn ofni y byddai’r terfysgwyr yn lladrata yn y Rhyl. Lladdwyd pump o filwyr Canada (yn ôl cyfrifon swyddogol) ac fe anafwyd 28. Mae pedwar o'r pump wedi eu claddu yn St Margaret, yn cynnwys William Tarasevich, a enwyd gan yr awdurdodau Prydeinig fel arweinydd y gwrthdaro. Dywedodd o leiaf un llygad-dyst bod y nifer a laddwyd yn uwch. Erbyn diwedd mis Mawrth, roedd llongau wedi eu darparu i gymryd oddeutu 15,000 i Ganada o wersyll Cinmel.

Pan ddychwelodd nifer fawr o ddynion ifanc, dig i Brydain wedi’r rhyfel, roedd Llywodraeth Prydain yn ofni y gallai chwyldro Comiwnyddol ddechrau yn Lerpwl – efelychiad o chwyldro Rwsia yn 1917. Mae yna ddamcaniaeth bod milwyr Canada wedi cael eu cadw yng gwersyll Cinmel i dawelu unrhyw wrthryfel o'r fath. Ar y llaw arall, efallai eu bod yn syml wedi dioddef system o ryddhau pobl o'r fyddin a oedd yn methu ymdopi a’r niferoedd enfawr ar ddiwedd y rhyfel. Bu terfysgoedd mewn gwersylloedd eraill ym Mhrydain hefyd.

Nid oedd pawb a gladdwyd yn yr ardal hon o’r fynwent yn deillio o Ganada. Roedd un o Gasnewydd. Roedd rhai wedi ymfudo i Ganada o Brydain neu'r Unol Daleithiau.

Roedd y ddwy wraig a gladdwyd yma yn ymwneud â gofal meddygol.

Ar y gofeb yng nghanol y beddau mae’r arysgrif (yn Saesneg): “Er cof am filwyr o Ganada a fu farw yng ngwersyll Parc Cinmel yn ystod y Rhyfel Mawr. Codwyd y gofeb hon gan eu cymrodyr. Bydd eu henwau’n byw am byth. "

Cliciwch ar y penawdau isod i ddarllen manylion y bobl a gladdwyd yma.

Ymhle mae'r HiPoint hwn?

Côd post: LL18 5UR

Cyfenawau A-L
Cyfenawau M-Z