Cloeon morglawdd Bae Caerdydd

Cloeon morglawdd Bae Caerdydd

Mae cloeon wedi bod yn nodwedd o ardal dociau Caerdydd ers y 1790au, pan grewyd clo newydd yng ngheg afon Taf. Arweiniodd hyn at gyfleusterau llawer gwell ar gyfer llwytho glo i longau. Mae'r gwahaniaeth rhwng llanw isel ac uchel ar hyd Môr Hafren yn eang, yr ail fwyaf yn y byd. Mae cloeon yn cadw dŵr y doc ar lefel gyson tra’n galluogi llongau i fynd a dod ar unrhyw adeg.

Mae llongau yn dal i fynd i mewn ac allan o ddociau Caerdydd trwy glo ger pen ogleddol y morglawdd. Crewyd cyfleusterau ar wahân ar gyfer cychod fel rhan o’r morglawdd yn y 1990au. Mae'r rhain yn cynnwys tri clo, pob un yn 40 metr o hyd. Mae dau yn 8 metr o led, un yn 10.5 metr. Mae gatiau’r cloeon tua 16 metr o uchder, i ganiatáu i gychod i basio rhwng y lagŵn a'r môr pan fo’r llanw’n uchel neu’n isel.

Mae'r harbwr allanol, ar ochr y môr, yn cael ei garthu fel bod cychod yn gallu hwylio at y clo hyd yn oed ar lanw isel. Mae cychod yn cymryd 10 i 30 munud i basio trwy'r lociau.

Ar draws pob clo mae pont godi, i gerddwyr a cherbydau groesi’r dŵr. Mae'r rhain yn codi i adael i gychod i basio. Mae trymder dec y bont yn cael ei wrthbwyso gan bwysau uwchben.

Map

Gwefan Adwurdod Harbwr Caerdydd

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button