Adfeilion Castell Caeriw
Adfeilion Castell Caeriw
Codwyd y castell gwreiddiol ar y safle hwn yn gartref i deulu Gerald de Windsor a’i wraig ifanc, ddeniadol - y Dywysoges Nest. Roedd hi eisoes yn magu plentyn gan y brenin Harri I. Cafodd nifer o blant gyda Gerald, cwnstabl castell Penfro.
Yn ôl traddodiad cafodd Nest ei chipio yn 1109 gan Owain ap Cadwgan, mab i dywysog o Gymro. Bu’r ddau gyda’i gilydd am ychydig flynyddoedd a chenhedlu, yn ôl y sôn, ddau o blant cyn i Nest ddychwelyd at Gerald.
Codwyd y castell, o bridd a choed mae’n debyg, ar safle caer o’r Oes Haearn. Syr Nicholas de Carew, un o ddisgynyddion Gerald a Nest, fu’n gyfrifol am y gwelliannau i’r castell ddiwedd y 13ganrif gan ddefnyddio cerrig, a chreu’r wardiau mewnol ac allanol a welwn ni heddiw.
Yn 1480 daeth y castell yn eiddo i Syr Rhys ap Thomas. Llywodraethai ef dros rannau helaeth o Gymru ar ran y brenin amhoblogaidd Richard III. Yn debyg i nifer o uchelwyr eraill, newidiodd Syr Rhys ei ochr pan gychwynnodd Harri Tudur ar ei ymgyrch i gipio’r orsedd. Roedd arweiniad a dawn filwrol Syr Rhys yn allweddol i fuddugoliaeth Harri ym mrwydr Bosworth yn 1485 a chasglodd lawer o filwyr o Gymru yn ystod ei daith i’r frwydr honno.
Ac yntau wedi ei wobrwyo’n hael gan y brenin newydd, Harri VII, trefnodd Syr Rhys adnoddau moethus ar gyfer castell Caeriw, gan gynnwys Neuadd Fechan newydd. Cludwyd cerrig o Gaerfaddon er mwyn ei addurno. Yn 1507 cynhaliodd Dwrnament Mawr dros bum niwrnod lle roedd marchogion yn ymwan ac yn cystadlu ar gampau eraill.
Trefnwyd y wedd ogleddol drawiadol â’i ffenestri Elisabethaidd gan Syr John Perrot y tu allan i lenfur y castell. Ganwyd Syr John, plentyn siawns i Harri’r VIII yn ôl y sôn, yn Haroldson, (i’r gorllewin o Hwlffordd) ac ef oedd piau Carew o 1558. Cafodd ei garcharu yn Nhŵr Llundain, ei gyhuddo o deyrnfradwriaeth a’i ddefrydu i farwolaeth yn 1592, ond bu farw o salwch y flwyddyn honno.
Difrodwyd rhannau o’r castell yn ystod y Rhyfel Cartref er mwyn sicrhau na ellid ei ddefnyddio at ddibenion milwrol fyth eto. Er 1983 mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn lesio a rheoli’r castell. Yn 2013 cafodd y Neuadd Fechan ei ail-doi.
Mae’r llun o’r awyr, trwy garedigrwydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn dangos y castell yn 1947. Daw o Gasgliad Aerofilms Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Mae rhywogaethau prin o flora a fauna i’w gweld yn y castell ac ar y tir o amgylch. Sylwch ar yr ystlumod wrth iddi nosi, ac yn eu plith ystlumod trwyn pedol prin.
Mae Melin Lanw hanesyddol Caeriw ar ben pellaf Llyn y Felin.
Diolch i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad
Cod post: SA70 8SL Map
Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk