Coeden Raoul Wallenberg, Caerdydd

Coeden Raoul Wallenberg, Gerddi Alexandra, Caerdydd

Mae'r goeden goffa a'r plac yma yn coffáu diplomydd o Sweden a arbedodd lawer o filoedd o Iddewon yn Hwngari pan oedd y wlad wedi ei meddiannu gan y Natsïaid. Plannwyd y goeden yn 1985.

cardiff_raoul_wallenbergGanwyd Raoul Wallenberg yn Stockholm ym 1912. Daeth yn ddyn fusnes ond fe'i recriwtiwyd ym 1944 gan Fwrdd Ffoaduriaid Rhyfel yr Unol Daleithiau. Ei dasg oedd mynd i Hwngari fel diplomydd a defnyddio’i sefyllfa i helpu Iddewon yno. Erbyn iddo gyrraedd Budapest ym 1944, roedd y Natsïaid eisoes wedi diddymu bron i hanner miliwn o Iddewon Hwngari. Cafodd y mwyafrif eu llofruddio mewn gwersylloedd gorfod, gan gynnwys Auschwitz.

Nid oedd poblogaeth Iddewig Budapest wedi cael ei halltudio eto. Roedd llywodraeth Sweden - niwtral yn yr Ail Ryfel Byd – wedi awdurdori Wallenberg i gyhoeddi tystysgrifau a ddiogelodd yr Iddewon a enwyd ar ei ddogfennau rhag alltudiaeth. Roedd wedi cynllunio'r ddogfennau'n ofalus fel eu bod yn edrych fel pasportau Swedeg. Dosbarthodd lawer mwy na'r nifer yr oedd ef wedi cytuno â swyddogion Hwngari.

Bu Wallenberg yn sefydlu tai diogel, ysbytai a chegin gawl ar gyfer Iddewon. Pan ddechreuodd y Natsïaid a ffasistiaid Hwngari alltudio Iddewon Budapest yn hydref 1944, roedd Wallenberg weithiau'n creu dogfennau i achub unigolion wrth iddynt ymdeithio dan orfod i ffin Awstria, ar y ffordd i Auschwitz.

O ganlyniad i waith Wallenberg a'i gydweithwyr, roedd mwy na 100,000 o Iddewon yn dal i fod yn Budapest pan gafodd y ddinas ei ryddhau gan heddluoedd yr Undeb Sofietaidd ym mis Chwefror 1945. Roedd Wallenberg wedi perswadio'r Natsïaid a oedd yn cilio i beidio â chwalu getto Iddewig y ddinas a lladd y trigolion.

Fodd bynnag, diflannodd Wallenberg ei hun ym mis Ionawr 1945. Cafodd ei arestio gan bersonél Sofietaidd, o bosib ar sail amheuaeth ei fod yn ysbïo. Ni welwyd ef byth eto. Dywedodd un adroddiad yn y 1950au ei fod wedi marw ym 1947 ym Moscow, yng ngharchar Lubyanka y KGB (heddlu cyfrinachol yr Undeb Sofietaidd). Yn 2016 datganodd Sweden ei fod yn gyfreithiol yn farw.

Map

Alexandra Gardens memorial tour label Navigation previous buttonNavigation next button