Cymraeg Clwb Ifor Bach

Clwb Ifor Bach, Stryd Womanby

Agorodd Clwb Ifor Bach ym 1983 fel lle i siaradwyr Cymraeg gymdeithasu yn eu prifddinas. I ddechrau roedd yn agored i aelodau’n unig. Roedd yn rhaid i bob aelod siarad Cymraeg neu ddangos ymrwymiad i ddysgu'r iaith.

Yn fuan datblygodd y clwb i fod yn lwyfan cerddorol lle y cai bandiau ac artistiaid o bob rhan o Gymru berfformio. Daeth y rheol aelodaeth i ben yn y 1990au. Ers 2005 mae cerddoriaeth fyw wedi cael ei chwarae ar ddau lawr y clwb. Ehangwyd y llawr uchaf yn fuan wedyn, ond mae rhai bandiau mawr - gan gynnwys y Super Furry Animals a Coldplay - weithiau yn dewis perfformio yn naws mwy cartrefol y neuadd isaf.

Enwir y clwb ar ôl yr arwr lleol Ifor ap Meurig. Ei lysenw oedd Ifor Bach, oherwydd ei daldra. Fe oedd arglwydd Senghenyd yn y 12ed ganrif. Roedd ei dir yn bennaf yn fryniog ac yn goediog, yn cwmpasu ardal eang o fynydd Caerffili i Fannau Brycheiniog ac yn ffinio ar afonydd Taf a Rhymni.

Dethlir Ifor Bach heddiw yn bennaf am iddo herwgipio Iarll Caerloyw ym 1158 drwy cyrch beiddgar ar Gastell Caerdydd. Yn ôl y chwedl, dringodd ef a’i ddynion dros waliau uchel y castell. Cymerwyd gwraig yr iarll a'i fab yn gwystlon hefyd. Roedd yr iarll wedi dwyn tir a oedd yn eiddo i Ifor Bach. Rhyddhawyd yr iarll a'i deulu ar ôl i’r iarll ddychwelyd y tir i Ifor Bach, ynghyd â tiriogaeth ychwanegol fel iawndal.

Côd post: CF10 1BR    Map

Gwefan Clwb Ifor Bach