Archifdy Sir y Fflint, Penarlâg

Archifdy Sir y Fflint, Penarlâg

hawarden_rectory_by_thomas_boydellMae'r archifdy mewn hen reithordy a oedd yn ddiweddarach yn goleg diwinyddol. Roedd rheithordy yn bodoli yma erbyn y 1660au. Os edrychwch tua'r gorllewin, fe welwch nad oedd gan y rheithor fawr o bellter i gerdded er mwyn arwain gwasanaethau yn Eglwys Sant Deiniol! Mae'n debyg bod rhan hynaf yr adeilad presennol yn dyddio o'r 18fed ganrif.

Mae'r llun ar y dde, gan Thomas Boydell, yn dangos y rheithordy a'i erddi ffurfiol yn 1756. Mae'r llun isod gan yr Arglwyddes Charlotte Neville Grenville, merch Iarll Dartmouth. Priododd George Neville, rheithor Penarlâg, a bu'n byw yma 1816-1834. Dangosir y ddau lun yma trwy garedigrwydd Archifdy Sir y Fflint.

Lladdwyd y Parch Henry Glynne, rheithor Penarlâg, gan fellten ym 1872, yn 62 oed.

Yn yr ystafell chwilio mae plac pres yn coffáu marwolaeth Dr Edward Benson, Archesgob Caergaint (pennaeth yr Eglwys Anglicanaidd) yn yr ystafell honno. Ar ymweliad penwythnos â Phenarlâg, fe'i gymerwyd yn sâl yn yr eglwys un bore Sul ym mis Hydref 1896 wrth rannu côr gyda'r cyn Brif Weinidog William Ewart Gladstone a'i deulu. Cafodd ei gario i'r reithordy ond bu farw'n fuan. Fe'i gladdwyd yn Eglwys Gadeiriol Caergaint.

hawarden_rectory_by_lady_grenvilleYm 1925, symudodd yr Eglwys yng Nghymru (a ddatgysylltwyd yn ddiweddar) lety'r rheithor i dŷ o'r enw The Sundial, cyn gartref yr addysgwr Helen Gladstone. Cafodd yr hen reithordy asgell ddeheuol newydd, gyda'r ffenestri bwa sy'n eich wynebu wrth i chi nesáu at yr archifdy, am ei ddefnydd newydd fel coleg i ddynion a oedd yn dymuno bod yn offeiriaid Anglicanaidd. Symudodd y coleg yma o Knutsford, Swydd Gaer.

Roedd yr adeilad yn gartref i faciwîs eiddil a dall o Benbedw yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gyda'r coleg wedi'i adleoli i Gastell Penarlâg.

Ar ôl y rhyfel daeth yn goleg diwinyddiaeth a chymdeithaseg i fenywod. Mae wedi bod yn gartref i archifdy'r sir ers 1956, gan ddal miloedd o ddogfennau o'r 13eg ganrif ymlaen.

Cod post: CH5 3NR    Map

Gwefan Archify Sir y Fflint