Cyn-swyddfeydd Doc Y Barri

sign-out

Cyn-swyddfeydd Doc Y Barri

Codwyd yr adeilad hwn ar y cyd gydag agor ail ddoc Y Barri ym 1898. Roedd yn gartref i swyddfeydd Cwmni Rheilffordd y Barri. Fe'i cynlluniwyd yn yr arddull Glasurol gan Arthur E Bell o Gaerdydd. Goruchwyliwr y gwaith adeiladu oedd ei dad, James, a oedd yn beiriannydd i’r cwmni.

Aerial photo of Barry Docks in 1929
Porthladd Y Barri ym 1929, trwy garedigrwydd CBHC a'i wefan Coflein

Mae'n ganddo dwr cloc a maylion mewn carreg Portland. Dywedir fod ganddo 365 o ffenestri - un i bob diwrnod o'r flwyddyn. Dyma'r unig pensaernïaeth sydd wedi goroesi’n sylweddol o'r cwmni, a oedd unwaith yn un o fusnesau mwyaf llwyddiannus Cymru, ac hefyd y cwmni mwyaf ym Mhrydain i weithredu system integredig o reilffyrdd a dociau.

Datblygwyd dociau’r Barri ar anogaeth perchnogion y pyllau glo a oedd yn anfodlon fwyfwy gyda'r tagfeydd a'r taliadau uchel yn nociau Caerdydd ac ar y rheilffyrdd i Gaerdydd. Doc amgaeedig mwyaf Prydain oedd doc cyntaf Y Barri pan agorodd ym 1889, gan ddarparu cyfleusterau modern ar gyfer llwytho glo i longau. Roedd angen peirianneg sifil sylweddol hefyd i greu’r rheilffyrdd a gysylltai’r dociau i’r pyllau glo yng nghymoedd Taf, Rhymni ac eraill. Yn eu plith roedd twneli yng Ngwenfô a Threfforest, a thraphontydd yn Ffynnon Taf, Caerffili a Llanbradach. Cafodd y cwmni ei gynnwys yn y Great Western Railway ym 1923.

Mae’r llun o’r awyr, trwy garedigrwydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn dangos yr adeilad a rhan o’r doc ym 1929. Daw o Gasgliad Aerofilms Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Ym 1984 difrodwyd yr adeilad gan dân. Erbyn hynny roedd yn eiddo i Associated British Ports. Cafodd yr adeilad ei adfer, a bellach mae’n gartref i swydfeydd Cyngor Bro Morgannwg.

Côd Post: CF63 4RT    Map

Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk 

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button