Cyn-westy Ellesmere, Bae Colwyn

button-theme-crimeAm nifer o flynyddoedd cyn 1939 defnyddiwyd yr adeilad hwn fel gwesty neu ‘boarding house’ gyda fflatiau preifat. Roedd hysbysebion yn brolio am y lleoliad yn y rhan orau o Fae Colwyn gyda golygfeydd hyfryd o fynydd a choedwigoedd. Rhedwyd y busnes yn wreiddiol gan Mrs Bush a Miss Reynolds, ond erbyn dechrau’r Ail Ryfel Byd yr oedd yn nwylo Mr a Mrs RTW Allen.

Yn 1939 gorchmynodd y Weinyddiaeth Bwyd iddynt ddod o hyd i lety arall, ac roedd yn rhaid i’r holl drigolion ac ymwelwyr adael. Wedyn rhedodd y Weinyddiaeth yr adran cyfreithiol a gorfodaeth o'r adeilad. O’r gwesty byddai tîm o swyddogion yn crwydro drwy gydol Ynysoedd Prydain i sicrhau nad oedd bwyd a allai gael eu bwyta gan bobl yn cael ei fwydo i anifeiliaid. Darganfyddwyd llawer o ffermwyr yn torri'r rheol hon, ac fe’u herlidwyd drwy’r llysoedd o westy Ellesmere.

Ar ôl y rhyfel, fel sefydliadau eraill o'r fath, ni fuodd yr adeilad yn llwyddiannus erioed eto fel gwesty. Heddiw mae'n gartref i adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Gyda diolch i Graham Roberts o Gymdeithas Ddinesig Bae Colwyn

Côd post: LL29 7LE    Map

Dig for Victory Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button