Tafarn yr Upper Lion gynt, Talgarth

button-theme-women PWMP logo

Tafarn yr Upper Lion gynt, Talgarth

Tafarn yr Upper Lion oedd yr adeilad ar y dde wrth i chi ddod i lawr Brook Lane. Bu unwaith yn gartref i ddau frawd a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf (gweler isod). Mae bellach yn dŷ preifat – cofiwch barchu preifatrwydd y deiliaid.

Erbyn 1809, byddai arwerthiannau eiddo yn cael eu cynnal yn y dafarn ac arwerthiannau da byw erbyn 1917. Ym 1828, cyfarfu ffermwyr a thirfeddianwyr yma i ffurfio’r Gronfa leol ar gyfer Erlyn Ffeloniaid i gynnig gwobrwyon am wybodaeth am ladron da byw.

Ym 1859, darganfuwyd merlen a dducpwyd o Ystradfellte yn stablau’r dafarn. Roedd y lleidr, Howell Powell, wedi cynnig ei gwerthu i dafarnwr yr Upper Lion, James Walker, a aeth yn amheus ohono.

Erbyn 1901, cedwid yr Upper Lion gan haliwr coed a thafarnwr o’r enw David Roberts a’i wraig Annie. Roedd eu meibion, William Arthur a Reginald Charles, yn byw gyda nhw yn y dafarn. Ym mis Ebrill 1901, gorchmynnwyd David gan ynadon Brynbuga i dalu swllt yr wythnos tuag at gynnal ei rieni a dderbyniai bum swllt yr wythnos gan Fwrdd Gwarcheidwaid Pont-y-pŵl (yr ad-dalwyd y rhan fwyaf ohono gan bedwar brawd David).

Ganed William ym Mrynbuga ym 1882. Ymunodd â Chyffinwyr De Cymru ac aeth i India ym 1914. Bu farw yn y Dwyrain Canol 25 Mawrth 1918 yn 26 oed. Mae wedi’i gladdu yn Baghdad.

Ddeufis yn ddiweddarach ar 22 Mai, lladdwyd Reginald (a aned yn Nhalgarth ym 1886) mewn brwydr wrth wasanaethu gyda Chatrawd Sir Fynwy. Mae wedi’i gladdu yn Hazebrouck, Ffrainc.

Pwysodd yr heddlu am gau’r Upper Lion ym 1914, gan ddadlau nad oedd ei hangen a’i bod yn anghyfleus i’r heddlu ei goruchwylio. Yn ôl deiliad y drwydded, Mrs Griffiths, roedd y dafarn yn brysur ar ddiwrnodau ffair. Roedd yno stablau i 30 o ferlod a chorlannau i 1,000 o ddefaid. Caniataodd yr ynadon i’r dafarn fasnachu am flwyddyn arall ar yr amod bod y drwydded yn cael ei throsglwyddo i ŵr Mrs Griffiths, Rhys, oherwydd ei bod yn anfoddhaol bod ‘gŵr yn byw yn yr eiddo heb unrhyw reolaeth’.

Ymhlith deiliaid yr adeilad yn nes ymlaen roedd Crochendy George Dear yn y 1970au a’r 1980au.

Cod post: LD3 0BN    Map

Talgarth war memorial  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button