Beddi Ynys Tysilio, Porthaethwy

Beddi Ynys Tysilio, Porthaethwy

Defnyddiwch y rhestrau a'r map isod i ddarganfod y beddi diddorol yr ydym wedi'u dewis ar Ynys Tysilio. Cliciwch enw'r person i weld ein gwybodaeth amdano/amdani, gyda llun o’u bedd i’ch helpu i ddod o hyd iddo.

Pan ewch i edrych ar y beddi, cymerwch ofal a chofiwch y gall y tir mewn mynwentydd fod yn anwastad.

Gallwch wrando ar ddarlleniadau o farddoniaeth ar ein tudalennau gwe am Hugh Emyr-Davies a Syr Cynan Evans-Jones a chlywed emyn gan “Corfanydd”.

Mae’r beddi hynaf yng nghyffiniau Eglwys Sant Tysilio. Roedd ochr ogleddol yr ynys yn dir fferm hyd 1918, pan gafodd ei gysegru fel estyniad i'r fynwent. Mae'r gofeb rhyfel leol yn sefyll ar bwynt uchaf yr ynys.

I ddarganfod tarddiad yr enw lle Ynys Gorad Goch (ynys gyfagos â thrapiau pysgod), gwelwch ein gwybodaeth am fedd Catherine Jones (trigolyn ar yr ynys).

Gyda diolch i Lis Perkins, Gareth Hughes a John Hughes o Gyfeillion Ynys Tysilio. Hefyd i Bridget Geoghegan, Adrian Hughes o amgueddfa Home Front, Llandudno, yr Athro Hywel Wyn Owen o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, yr Athro Gerwyn Wiliams o Brifysgol Bangor, Rhidian Griffiths, Dafydd Hobson, Catrin Hobson, Barry Wynne, Peredur Glyn Webb-Davies a'r Gymdeithas Frenhinol (Royal Society).

Cod post: LL59 5HD

Angen help i ddod o hyd i Ynys Tysilio? Cliciwch yma am fap

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button


Sector y gogledd

1, William Jones (m.1940) - lladdwyd ym mhorthladd Dover pan ymosododd awyren Almaenig ar ei long
2, Hugh Emyr Davies (m.1950) - gweinidog a bardd a enillodd lawer o gadeiriau a choronau eisteddfodol
3, Syr Cynan Evans-Jones (m.1970) - bardd, pregethwr, dramodydd, cynhyrchydd theatrig a thiwtor prifysgol
4, John Charles Jones (m.1956) - Esgob Bangor a chenhadwr yn Affrica
5, Robert a Roderick Jones (m.1917 and 1944) - brodyr a fu farw yn y fyddin mewn gwahanol ryfeloedd byd
6, David White Griffith (m.1876) - prif gwnstabl Sir Fôn am bron i 20 mlynedd
7, Glyn Roberts (m.1962) - trefnwr cyflenwadau o UDA yn yr Ail Ryfel Byd, wedyn yn athro Hanes Cymru, Bangor
8, FWR Brambell (m.1970) - athro sŵoleg a lansiodd arbenigedd gwyddor morol Bangor

Sector y de
10, Richard Davies (m.1896) - AS Rhyddfrydol cyfoethog, masnachwr, perchennog llongau a chymwynaswr y Methodistiaid
11, Gracie Davies (m.1919) - Cafodd glod (‘Mentioned in Dispatches’) am ei gwaith yn Ysbyty’r Groes Goch yn y Rhyfel Byd Cyntaf
12, Alexander William Connington (m.1918) - awyrwr o Awstralia a gladdwyd yma gan berthnasau lleol
13, William Jones (m.1877) - crwner Ynys Môn am 40 mlynedd. Cynhaliodd y cwest ar y cannoedd a fu farw ar y Royal Charter
14, Robert Herbert Williams (m.1876) - dilledydd yn Lerpwl a oedd yn adnabyddus fel yr emynydd "Corfanydd" ac am ei farf
15, Catherine a Catherine Jones (m.1865 a 1924) - trigolion ar Ynys Gorad Goch, a oedd yn enwog am drapiau pysgod
16, Thomas Hughes (m.1890) - dilledydd a gafodd, yn ôl y sôn, y syniad o ymestyn enw Llanfair Pwllgwyngyll
17, John Owen (m.1830) - porthwr, sef un a weithiau yn bwydo da byw
18, Henry Fisher (m.1851) - ceidwad gwreiddiol Pont y Borth, wedi iddo helpu i adeiladu’r bont
19, Mary Blackwell (m.1801) - trigai gyda'i gŵr Thomas yn nhŷ’r fferi. Bu farw cyn i bont Telford ddisodli'r fferi
20, John Evans, Y Bardd Cocos (m.1888) - roedd ei farddoniaeth yn wirion, yn anfwriadol

graves-church-island