Gerddi’r Plas, Machynlleth

PWMP logoGerddi’r Plas, Machynlleth

Datblygwyd ystâd helaeth o gwmpas Plas Machynlleth (a elwir bellach Y Plas) gan John Edwards (bu farw 1789) a’i ddisgynyddion. Ym 1919 cynhaliwyd ffair yma i ddathlu heddwch ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Aeth mab John Edwards, Syr John Edwards, ati i ehangu’r gerddi ar ôl priodi Harriet Herbert, gwraig weddw o Ddolforgan, Y Drenewydd. Roedd ei merch hi, Harriet Averina Herbert, wedi etifeddu tir a gerddi Llynlloedd gan ei thad, oedd dros y ffordd i’r Plas.

Ym 1831, aeth Deddf trwy’r Senedd oedd yn caniatáu i Syr John roi tir yng Ngheri i’w lysferch yn lle Llynlloedd. Gwerthodd Harriet Averina adeiladau yn Heol Pentrerhedyn iddo 14 mlynedd yn ddiweddarach. Er mwyn uno ei diroedd, trefnodd Syr John symud Heol Pentrerhedyn ychydig ymhellach i’r gorllewin! Cafodd yr adeiladau eu dymchwel, ac roedd y tiroedd yn destun gwaith tirlunio sylweddol.

Gosodwyd gatiau addurnol a dau borthdy wrth y fynedfa, yn sgil gwaith ym 1853 i’w ehangu eto.

Daeth y Brenin Siôr V a’r Frenhines Mair i ymweld â Machynlleth yng Ngorffennaf 1911 ar ôl gosod sylfaen Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Daeth Tywysog a Thywysoges Cymru gyda nhw. Plannwyd coeden gan bob un ohonynt yng ngerddi’r Plas.

Mae’r Ardd Rhosod yn cynnwys penddelw o  Mary Cornelia (1828-1906), merch Syr John. Ym 1850, hi etifeddodd  Y Plas, ac roedd eisoes yn briod â Marcwis Londonderry. Yn wreiddiol yn Stryd Penrallt y gosodwyd y penddelw, a wnaethpwyd ym 1907 gan Iarlles  Fedora von Gleichen, aelod benywaidd cyntaf Cymdeithas Cerflunwyr Brenhinol Prydain.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yr Arglwydd  Herbert Vane-Tempest (perchennog Y Plas) wedi caniatáu troi tiroedd y gerddi er mwyn cynhyrchu bwyd. Defnyddiwyd hyn fel esiampl i dirfeddianwyr cyfoethog eraill, wrth i bryderon am gyflenwad bwyd gynyddu, wrth i longau tanfor yr Almaen amharu ar y gallu i fewnforio bwydydd.

Yng Ngorffennaf 1919, cynhaliwyd dathliadau heddwch Machynlleth yn y gerddi. Ymhlith y cystadlaethau chwaraeon roedd gornest tynnu rhaff rhwng cyn milwyr, ac un arall rhwng milwyr a sifiliaid. Hefyd roedd cyfle i ddawnsio a gorymdaith carnifal mewn gwisg ffansi. Gyda’r nos taniwyd coelcerthi ar fryniau o gwmpas y dref.

Ym 1931, chwalwyd yr ystâd, wrth werthu darnau ohono i dalu biliau treth. Ym 1948 rhoddwyd gweddill y gerddi i’r gymuned gan Farcwis Londonderry, a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach fel caeau pêl-droed a rygbi, ac i adeiladu Canolfan Hamdden Bro Ddyfi.

Yn 2018 crëwyd gardd er cof am y Rhyfel Byd Cyntaf gan Gyngor Tref Machynlleth a thrigolion lleol, yn yr Ardd Rhosod, sy’n cynnwys mainc coffa ar thema’r pabi.

Ffynonellau’n cynnwys: ‘Plas Machynlleth, A Historical Guide’, gan James Barfoot, 1996

Cod post: SY20 8ER    Map

I barhau ar y daith ar thema’r Rhyfel Byd Cyntaf o gwmpas Machynlleth, wrth adael tiroedd Y Plas, ewch tua’r gogledd ar hyd y brif ffordd at dŵr enwog y cloc
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button