Glaniad Harri Tudur, Mill Bay

tour logo and link to information page

Glaniad Harri Tudur, Mill Bay

Ar 7 Awst 1485, glaniodd Harri Tudur yma, ym Mill Bay, ger dyfrffordd Aberdaugleddau. Roedd yn 28 oed ac wedi treulio y rhan fwyaf o'i oes yn alltud yn Ffrainc. Gydag ef roedd ryw 2,000 o filwyr cyflog o Ffrainc oedd wedi’u hariannu gan Frenin Ffrainc. Ychydig dros bythefnos yn ddiweddarach, roedd Harri a’i gefnogwyr wedi trechu’r Brenin Richard III ym mrwydr Bosworth, ger Caerlŷr, a chafodd y Cymro ei goroni’n Frenin Harri VII. Bu’r Tuduriaid yn ddylanwad mawr ar y Brydain sydd ohoni.

Pam dewis Mill Bay? Yn y lle cyntaf, roedd yr ardal yn gyfarwydd iddo: ganed Harri yng Nghastell Penfro, ar lan arall y ddyfrffordd. Ei ewythr oedd Siasbar Tudur, Iarll Penfro; roedd ef wedi cadw cysylltiad â phobl yn yr ardal tra’n magu ei nai yn Ffrainc.

Rheswm arall o blaid dewis Mill Bay oedd sicrhau bod Harri a’i fyddin yn osgoi arsylwyr y brenin yng Nghastell Dale, tua 3 cilomedr i'r gogledd.

Roedd hi’n anochel y byddai’r newyddion am laniad Harri yn lledu’n gyflym – roedd y brenin ei hun yn gwybod erbyn 11 Awst. Fodd bynnag, roedd y penderfyniad i lanio yn y bae diarffordd hwn wedi caniatáu i'r fyddin fechan i ddod i'r lan a chael eu traed tanynt yn ddiwrthwynebiad.

Roedd yn hanfodol hefyd fod Harri’n dechrau ar ei daith i Bosworth mewn ardal lle’r oedd ganddo gefnogaeth. Cyn pen dim, byddai galw ar bobl leol gefnogol ddarparu cyflenwad o fwyd ar gyfer y fyddin. Byddai’n angenrheidiol, yn ogystal, i drefnu rhagor o filwyr o blith y bonedd a oedd yn cefnogi’r achos. Llwyddodd strategaeth Harri. Fe dderbyniodd groeso brwd yn Hwlffordd, y dref fawr gyntaf ar y daith i Bosworth.

Prif gefnogwr Harri yng Nghymru oedd Rhys ap Tomos. Un o’i amryw gartrefi oedd Castell Caeriw, ger Penfro. Gorymdeithiodd Rhys ar draws Cymru ar hyd llwybr gwahanol i Harri, er mwyn iddo gasglu rhagor o filwyr ar gyfer y frwydr. Yn ddiweddarach datblygodd gwedd ramantus ar y stori gan bortreadu Rhys yn aros ym Mill Bay i groesawu Harri o Ffrainc.

Yn 2004 crewyd Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir Benfro, sy’n cynnwys Aberdaugleddau. Y nod yw gwarchod bywyd gwyllt hynod yr ardal forol ac ar yr un pryd gefnogi masnach a hamdden ar hyd y ddyfrffordd.

Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad


Map

Gwefan Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir Benfro

Henry Tudor’s route to Bosworth  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button