Gwarchodfa natur Cynffig

Gwarchodfa natur Cynffig

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig yn cwmpasu 5.3 cilomedr sgwâr (1,300 erw) o wlyptiroedd o dan reolaeth a thwyni tywod. Ystyrir yr ardal yn un o’r enghreifftiau gorau o gynefin twyni yn Ewrop. Arferai’r twyni ymestyn i'r dde ar hyd yr arfordir o Afon Ogwr i Benrhyn Gŵyr, ond yn y rhan fwyaf o leoedd maent eisioes wedi eu disodli gan drefi, amddiffynfeydd arfordirol caled a strwythurau eraill o waith dyn.

Mae twyni Cynffig yn gartref i fflora a ffawna prin. Mae’r mathau gwahanol o degeirianau yma yn cynnwys Liparis loeselii var. ovata.

Mae'r warchodfa yn cynnwys Pwll Cynffig, llyn dŵr croyw mwyaf De Cymru. Gall ymwelwyr ddefnyddio cuddfannau i wylio’r adar sy’n cael eu denu at y llyn ym mhob tymor.

Yng Ngorfennaf 1891, bu foddi dau fachgen o bentreflan cyfagos Mawdlam tra’n trochi ym Mhwll Cynffig. Daethpwyd o hyd i gyrff Alfred Payne, 11, a John David, 9, ym mhen ogleddol y pwll, lle roedd tyllau dwfn yng ngwely’r pwll. Ceisiodd brawd hŷn Alfred achub y plant ond method eu tynnu i ddiogelwch.

Adeiladwyd castell a thref yn y 12fed ganrif mewn ardal sydd bellach yn rhan o’r warchodfa. O ganol y 13eg ganrif, roedd y tywod yn bygwth yr adeiladau yn gyson ac fe’u claddwyd erbyn canol y 15fed ganrif. Heddiw, dim ond pen gorthwr y castell sy’n weladwy. Defnyddiwyd cerrig o eglwys y dref i godi eglwys Y Pîl. Yn ôl y chwedl leol, mae’r eglwys “wyneb i waered” oherwydd fe’i hadeiladwyd trwy osod y cerrig oddi rhannau uchaf yr hen adeilad ar a gwaelod, ac wedyn ychwanegwyd cerrig mwy o faint a oedd yn wreiddiol wrth waelod waliau’r hen eglwys.

Dynodwyd Pwll Cynffig a’r twyni yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn 1953. Heddiw mae'r ardal yn cael ei reoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Penybont.

Am yr enw lle:
Kenfig oedd enw Saesneg y bwrdeistref canoloesol. Daeth yr enw o Cynffig, enw person mae’n debyg. Mae dogfennau o’r 12ed ganrif yn dangos yr enw fel Chenefec, Kenefec a Kenefeg.

Diolch i Richard Morgan, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, am yr wybodaeth an yr enw lle

Map  

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button