Eglwys y Bedyddwyr Kensington, Aberhonddu

PWMP logoEglwys y Bedyddwyr Kensington, Aberhonddu

Mae Bedyddwyr wedi bod yn addoli ar y safle hwn ers amser maith. Darparwyd cyrddau yn Saesneg yma, a châi cyrddau Cymraeg eu cynnal yng nghapel Watergate gerllaw.

Cafodd y capel cyntaf ei adeiladu yma yn yr 1820au, ond aeth yn rhy fach i’r gynulleidfa a’r dosbarthiadau Ysgol Sul maes o law. Yn 1879 gosodwyd carreg sylfaen ar gyfer capel ac ysgoldy newydd gan John Evans, Mount View, Aberhonddu a Richard Cory. Roedd Mr Cory (1830-1914) yn un o feistri’r diwydiant llongau yng Nghaerdydd, a bu’n hael ei gefnogaeth i’r Bedyddwyr.

Cafodd y capel a’r neuadd gyfagos eu dymchwel yn 2011 oherwydd diffygion strwythurol a achoswyd gan dir a oedd yn suddo. Mae siâp yr adeiladau newydd yn debyg i siâp cyffredinol yr adeiladau blaenorol, ac mae’r lle yn fan cyfarfod ar gyfer grwpiau cymunedol ac yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau cymunedol.

Mae plac pres y tu mewn yn coffáu pedwar o ddynion a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys organydd y capel, Melville George Trew. Ymunodd â Chyffinwyr De Cymru yn 1916, ac yn nes ymlaen cafodd ei drosglwyddo i Ffiwsilwyr Swydd Gaerhirfryn. Cafodd ei ladd mewn brwydr yng Ngwlad Belg ar 18 Medi 1917 yn 36 oed. Bu’n gweithio yng Nghaerdydd cyn dychwelyd i Aberhonddu i weithio ym musnes bwtsiera ei dad, Thomas Edward Trew, a oedd yn ynad lleol. Roedd yn byw gyda’i rieni yn Heol y Defaid, ac roedd yn chwarae’r piano ac yn cyfeilio i Gymdeithas Gorawl Aberhonddu ac eraill.

Dyfarnwyd y Fedal Filwrol i’w frawd, Edwin Charles Trew, ym mis Mawrth 1918 am achub milwr wedi’i anafu o dir neb yn wyneb ymosodiad gan ynnau peiriant. Bum mis yn ddiweddarach, ac yntau’n 42 oed, cafodd ei anafu gan ffrwydryn yn Ffrainc a bu farw.

Cafodd David Stanley Davies ei addysg yn Ysgol Sirol Aberhonddu a symudodd i fyw yn Seland Newydd. Ymunodd â Lluoedd Seland Newydd a chafodd ei ladd yn Ffrainc ar 12 Chwefror 1917 yn 26 oed.

Roedd John Sydney Letton, Y Watton yn baentiwr coetshis cyn y rhyfel. Bu’n ymladd yn yr Aifft a bu farw o fethiant y galon ger Cairo ar 2 Hydref 1916 yn 26 oed.

Gyda diolch i Steve Morris o Gymdeithas Hanes Lleol a Theulu Sir Brycheiniog

Cod post: LD3 9AY     Map

 

I barhau â’r daith ‘Aberhonddu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf’, cerddwch i fyny’r Goedlan a chymerwch y tro cyntaf ar y dde. Dilynwch Sgwâr y Castell, ac yna’r Postern i’r pen pellaf. Cerddwch i fyny Tyle’r Priordy i’r Eglwys Gadeiriol
Brecon war memorial  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button