Cofeb rhyfel Llanfairfechan

Cofeb rhyfel Llanfairfechan

Cynlluniwyd Cofeb Ryfel Llanfairfechan ym 1919 gan y pensaer enwog lleol Herbert Luck North. Sefydlwyd pwyllgor i godi arian yn y pentref, ac fe ddaeth cyfraniadau o bob rhan o'r plwyf. Erbyn gwanwyn 1920 roedd y saer maen lleol Richard Williams wedi gorffen ei waith ar y gofeb. Ar Sul y Blodau 1920, cynhaliwyd gwasanaeth ar bwys y senotaff, a gyflwynwyd gan glerigwyr lleol cyn cael ei ddadorchuddio gan Mrs Mai Massey.

I ddarllen manylion y dewrion lleol a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, dewiswch gategori isod.

Rydym wedi cynnwys manylion am ddau o bobl leol nad ydynt wedi eu henwi ar y gofeb. Un ohonynt ydi Mary Elizabeth Jones, stiwardes ar y llong RMS Lusitania a fu farw pan gafodd y llong ei tharo gan dorpido oddi ar arfordir deheuol Iwerddon ym 1915. Mae un o'i chydweithwyr, Arthur Rowland Jones, wedi ei goffáu ar gofeb ryfel Prestatyn, ac fe’i gladdwyd yn Eglwys Crist, Prestatyn. Goroesodd suddo’r Lusitania, ond cafodd ei ladd ym 1918.

Ar y gofeb hefyd y mae enw’r gwarchodluwr Gareth Hughes, a fu farw yn 22 oed yn ystod y gwrthdaro dros Ynysoedd Falkland ym mis Mehefin 1982. Yr oedd ar fwrdd llong o'r enw Sir Galahad, yn aros i fynd i'r lan, pan ymosododd awyren o’r Ariannin. Roedd ymhlith 48 o bobl a fu farw, y rhan fwyaf ohonynt yn aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig (Welsh Guards).

Gyda diolch i Adrian Hughes, o Amgueddfa Home Front, Llandudno, Andrew Hinchliff a Byron Jones

Côd post: LL33 0NW    Map

Rhyfel Byd Cyntaf

Ail Ryfel Byd

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button